Neidio i'r prif gynnwy

Gallai bod yn Gyfarwydd â'ch Curiad achub eich bywyd

02 Mai 2024

Mae ffibriliad atrïaidd neu AF yn fath cyffredin iawn o guriad calon afreolaidd neu arhythmia a all effeithio ar oedolion o unrhyw oedran, ond mae'n fwy cyffredin wrth i ni heneiddio.

Er bod amcangyfrif o 1.5 miliwn o bobl wedi cael diagnosis yn y DU yn unig, mae arbenigwyr yn amcangyfrif bod o leiaf 500,000 o bobl yn parhau heb ddiagnosis. Dyma'r aflonyddwch rhythm calon mwyaf cyffredin a wynebir gan feddygon a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) yn codi ymwybyddiaeth o'r cyflwr i bobl leol.

Dylai pobl bob amser weld gweithiwr gofal iechyd proffesiynol ar gyfer diagnosis, ond gallwch ei ganfod eich hun trwy deimlo'ch curiad ar eich arddwrn. Mae cyfradd curiad y galon arferol yn gyson ac fel arfer rhwng 60 a 100 curiad y funud pan fyddwch chi'n gorffwys.

Os oes gennych ffibriliad atrïaidd, ni fydd gan eich curiad batrwm penodol ac efallai y bydd gan y curiadau wahanol gryfderau. Mae gan rai pobl ffibriliad atrïaidd sy'n mynd a dod. Mae hyn yn golygu y gall eu curiad deimlo'n normal ar adegau ac ar adegau eraill bydd yn afreolaidd.

Dylai unrhyw un sydd â symptomau ffibriliad atrïaidd weld gweithiwr gofal iechyd proffesiynol a fydd wedyn yn trefnu triniaeth briodol i reoli cyfradd a rhythm eich calon. Mae Mathew Banner, Ffisiolegydd Cardiaidd ac Andrea Evans, Nyrs Arhythmia Arbenigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cydweithio i helpu i godi ymwybyddiaeth am ffibriliad atrïaidd.

"Mae ffibriliad atrïaidd yn digwydd pan fydd yr ysgogiadau trydanol mewn siambr o'ch calon a elwir yn atria, yn tanio’n anhrefnus pan ddylent fod yn gyson ac yn rheolaidd, gan achosi iddynt grynu neu blycio,” meddai Mathew. 
 

"Pan fydd hyn yn digwydd, efallai y byddwch chi'n teimlo curiad calon afreolaidd ac weithiau curiad cyflym. Mae rhai pobl yn dweud ei fod yn teimlo fel bod eu calon yn dychlamu neu'n rasio. Gall y rhain fynd a dod ond weithiau, nid yw'n diflannu o gwbl. Nid yw'n peryglu bywyd, ond fe'i hystyrir yn ddifrifol gan y gall greu clotiau gwaed yn y galon a allai arwain at strôc.

"Mae'n bwysig bod pobl yn gwybod am ffibriliad atrïaidd a sut y gall y gwiriad curiad syml nodi problem bosibl sy'n gysylltiedig â'r galon yn gyflym ac yn effeithiol. Felly, rydym yn annog pawb i wirio'ch curiad a gwybod rhythm eich calon, gallai achub eich bywyd."

Mae triniaeth a gwella dewisiadau ffordd o fyw yn hynod bwysig oherwydd gall ffibriliad atrïaidd heb ei drin cynyddu'r risg o strôc, methiant y galon a phroblemau eraill sy'n gysylltiedig â'r galon.

Mae Matthew yn parhau: “Rydym mewn mwy o berygl o gael ffibriliad atrïaidd os ydym yn hŷn, os oes gennym hanes teuluol o ffibriliad atrïaidd, os oes gennym bwysedd gwaed uchel, methiant y galon neu glefyd cardiofasgwlaidd, os oes gennych ddiabetes, anhwylderau thyroid, neu’n yfed gormod o alcohol.

“Gallwn helpu i leihau ein risg trwy wella ein dewisiadau ffordd o fyw, fel bwyta llai o halen, braster, siwgr a chaffein, gwneud ymarfer corff yn rheolaidd, a mynychu archwiliadau iechyd.”

Gall symptomau ffibriliad atrïaidd gynnwys crychguriadau, poen yn y frest, blinder, pendro, llewygu neu ddiffyg anadl. Weithiau, nid yw pobl yn profi unrhyw symptomau ac mae ffibriliad atrïaidd yn cael ei ganfod wrth gael archwiliad clinigol.

Am fwy o wybodaeth, ewch i heartrhythmalliance.org/afa/wl/programs/know-your-pulse neu cysylltwch â'u llinell gymorth: 01789 867502