Neidio i'r prif gynnwy

Enwi tîm Hywel Dda yn sgrinwyr maeth gorau yng Nghymru

Bocs glas gyda geiriau datganiad i

6 Rhagfyr 2021

Mae tîm o wasanaeth Maeth a Deieteg Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi derbyn canmoliaeth uchel am eu gwaith yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Diffyg Maeth ym mis Hydref.

Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Diffyg Maeth (MAW) yn ymgyrch flynyddol yn y DU a arweinir gan Cymdeithas Brydeinig Maeth drwy'r Gwythiennau a'r Ymysgaroedd (BAPEN). Fel rhan o arolwg blynyddol cenedlaethol a gynhaliwyd yn ystod yr wythnos, trefnodd aelodau o dîm Maeth a Deieteg y bwrdd iechyd yr arolwg sgrinio ar wardiau ysbytai ac mewn rhai lleoliadau cymunedol.

Roedd tîm Sir Benfro mor llwyddiannus nes iddynt gael eu henwi’n brif sgriniwyr Cymru gan BAPEN, gan olygu iddynt gwblhau a chasglu’r nifer uchaf o arolygon sgrinio ar gleifion.

Dywedodd Emma Catling, Arweinydd Strategol Diffyg Maeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Perfformiodd ein timau ar draws y tair sir yn dda iawn ac rwy’n falch iawn ohonynt, gydag ymrwymiad tîm acíwt a chymunedol Sir Benfro yn rhagorol. Mae angen rhoi sylw arbennig i'r deietegydd, Lloyd Roberts, a oedd yn gyfrifol am nodi'r arolygon sgrinio ar borth BAPEN.

“Yn ogystal â chyfrannu at arolwg sylweddol ledled y DU, mae gennym bellach ddata lleol ystyrlon i ni ei ddefnyddio i gynllunio a gwella ein gwasanaeth.

“Mae diffyg maeth yn gyflwr difrifol iawn a all arwain at broblemau iechyd sylweddol, gan gynnwys cynyddu'r risg o gwympo, iachâd clwyfau gwael, colli cryfder, mwy o debygolrwydd o gael eich derbyn i'r ysbyty, arosiadau hirach yn yr ysbyty ac adferiad arafach. Ein nod yw cefnogi pobl i atal diffyg maeth, a chanfod a mynd i'r afael â phroblemau diffyg maeth yn gynnar. "