Neidio i'r prif gynnwy

Ennill cyflog tra'n dysgu gyda Academi Brentisiaeth leol

Apprentice working on ward with equipment

13 Mawrth 2023

Mae Academi Bentisiaeth Hywel Dda unwaith eto wedi agor ei drysau i unrhyw un sydd am ymuno â'r GIG - gallai hyn fod yn gyfle i chi wneud gwahaniaeth i ofal iechyd lleol.

Mae rhaglen newydd yr Academi wedi’i chynllunio i ddarparu cyfleoedd i’n poblogaeth leol sydd eisiau g weithio ym maes gofal iechyd ond sydd efallai heb y cymwysterau priodol neu sydd mewn sefyllfa i ennill cymwysterau.

Dywedodd Lisa Gostling, Cyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn gyffrous i gyhoeddi bod ein rhaglen prentisiaethau wedi dychwelyd eto eleni; mae’n gyfle gwych i bobl sydd eisiau gweithio yn y GIG a datblygu eu gyrfa.

“Mae ein rhaglenni prentisiaeth hefyd yn cynnwys rolau anghlinigol, fel profiad y claf, gwasanaethau digidol, llywodraethu corfforaethol, gyda llawer mwy yn cael eu datblygu.”

Fel prentis bwrdd iechyd, byddwch yn derbyn dysgu seiliedig ar waith strwythuredig, a fydd yn eich galluogi i ddysgu wrth ennill, ac ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol. Gall prentisiaethau gymryd rhwng blwyddyn a phedair blynedd i'w cwblhau ac maent ar gael i unrhyw un 16 oed a hŷn. Yn ogystal â bod yn y gweithle, byddwch yn mynychu coleg neu ganolfan hyfforddi i weithio ar eich cymwysterau.

Yn ddiweddar dyfarnwyd yr Academi yn enillydd y categori "Cynllun Prentisiaeth Gorau" yng Ngwobrau Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) Cymru eleni.

Ymunodd Sian Thomas-Davies â’r cynllun yn 2021 fel Prentis Gofal Iechyd yn Ysbyty Glangwili a dywedodd: “Mae wedi rhoi ystod o gyfleoedd i mi yn fy ngweithleoedd i wella fy sgiliau a gwybodaeth. Wrth wneud hyn rwyf wedi cyfarfod ag unigolion anhygoel gan gynnwys cynorthwywyr gofal iechyd a nyrsys, sydd wedi fy ysbrydoli i barhau i wella fy sgiliau bob dydd a dod yn fwy hyderus yn yr hyn rwy'n ei wneud. Mae hefyd wedi fy ngalluogi i wella fy sgiliau gwaith tîm gan fod llawer o gyfleoedd i gwrdd â phobl newydd a gweithio fel rhan o dîm a theimlo’n rhan o hyn.”

Ychwanegodd Lisa: “Os ydych chi'n credu y gallai'r cyfle gwerth chweil hwn fod ar eich cyfer chi, ewch i'n tudalen we i gael mwy o wybodaeth a sut i gysylltu â ni."

Rhestrir Digwyddiadau Gwybodaeth Prentis Gofal Iechyd isod:

Cofrestrwch eich lle yma.

• 27 Mawrth 2023 – Coleg Sir Gâr, Campws y Graig, Llanelli (4.30pm-7.00pm)

• 29 Mawrth 2023 – Coleg Sir Benfro, Hwlffordd (4.00pm-7.00pm)

• 30 Mawrth 2023 – Coleg Ceredigion, Campws Llanbadarn, Aberystwyth (2.30pm-5.30pm)

Dilynwch sianeli cyfryngau cymdeithasol y bwrdd iechyd i gael diweddariadau ar ymgyrchoedd recriwtio, swyddi gwag a mwy:

Twitter @SwyddiHDdaJobs 
Facebook @SwyddiHywelDdaJobs
LinkedIn @Hywel Dda University Health Board