17 Chwefror 2022
Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi cyhoeddi eu Sialens Naid Zip Elusen 2022, a fydd yn cael ei chynnal ar 9 Ebrill, a fydd yn gweld 30 o godwyr arian dewr yn ymgymryd â her llinell zip eistedd i lawr gyflymaf y byd!
Mewn partneriaeth â Zip World, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi sicrhau 30 o leoedd i godwyr arian hedfan ar y llinell zip, Phoenix.
Mae Phoenix yn Zip World Tower ar hen safle Glofa’r Tŵr yn Aberdâr, de Cymru, ar gyrion Bannau Brycheiniog. Yn cynnwys dwy linell zip anhygoel, mae Phoenix wedi torri record, gan mai dyma'r llinell zip eistedd i lawr gyflymaf yn y byd, a llinell zip mwyaf serth yn Zip World. Mae unigolion yn teithio ar gyflymder hyd at 70 m.y.a. a gyda phedair llinell wedi'u lleoli ochr yn ochr fel y gall teulu a ffrindiau rasio gyda'i gilydd.
Bydd y rhai sy'n cymryd rhan yn cystadlu gyda ffi gofrestru ostyngol o £20 ac yna mae'n ofynnol iddynt godi lleiafswm o £100 i'r elusen trwy dudalen JustGiving neu Enthuse.
Y gofyniad oedran lleiaf yw saith mlwydd oed, a rhaid i rai dan 18 oed fod ag oedolyn sy'n cymryd rhan gyda nhw. Rhaid cael un oedolyn sy'n cymryd rhan ar gyfer pob tri phlentyn sy'n cymryd rhan.
Dywedodd y Swyddog Codi Arian, Katie Hancock: “Rydym yn gyffrous iawn am ein Her Naid Zip, rydym yn meddwl y bydd yn ddiwrnod gwefreiddiol i’n codwyr arian! Os oes gennych chi ddiddordeb mewn creu profiad gwirioneddol cofiadwy wrth godi arian ar gyfer eich elusen GIG, beth am roi cynnig arni?”
Am fwy o wybodaeth ewch i dudalen Sialens Naid Zip (agor mewn dolen newydd)