Neidio i'r prif gynnwy

Dysgu mwy am LUMEN

2 Tachwedd 2022

Ymwelodd Eluned Morgan AS a Nia Griffith AS ag Ysbyty Tywysog Philip ddydd Gwener 28 Hydref, i ddysgu mwy am brosiect peilot Llinell Asesu Symptomau Canser yr Ysgyfaint (LUMEN).

Wedi’i ariannu gan Moondance Cancer Initiative, mae prosiect peilot LUMEN Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn wasanaeth dan arweiniad nyrsys sy’n canolbwyntio ar ganfod canser yr ysgyfaint yn gynnar mewn pobl sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin.

Mae'r cynllun peilot hwn ar gael ar hyn o bryd i unrhyw un sy'n 40 oed neu'n hŷn, ac sydd wedi cofrestru gyda meddyg teulu yn Sir Gaerfyrddin sy'n profi'r symptomau canlynol:

• Peswch (mwy na 3 wythnos)

• Colli pwysau heb geisio

• Prinder anadl

• Llais cryg

• Heintiau mynych ar y frest

• Poen yn y frest

• Yn fwy blinedig nag arfer

• Colli archwaeth

• Cyflwr ar yr ysgyfaint gyda symptomau yn newid

Wrth esbonio nodau’r prosiect, dywedodd Patricia Rees, Nyrs Brysbennu Canser yr Ysgyfaint: “Mae prosiect LUMEN yn rhoi mynediad uniongyrchol i bobl sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin, sy’n profi problemau anadlol naill ai fel ysmygwyr neu’r rhai nad ydynt yn ysmygu, at nyrs arbenigol a all drafod symptomau, ac os yw’n briodol, eu cyfeirio’n uniongyrchol ar gyfer ymchwiliad pellach.”

Os bydd yn llwyddiannus, y gobaith yw y bydd y peilot yn cael ei ymestyn i Sir Benfro a Cheredigion y flwyddyn nesaf.

Dywedodd Dr Savita Shanbhag, Arweinydd Canser Meddyg Teulu: “Roeddem yn falch o allu cyfarfod â gwleidyddion lleol i godi ymwybyddiaeth o waith tîm LUMEN. Credwn fod galluogi unigolion i ffonio ein llinell ffôn yn ein helpu i ganfod symptomau’n gynnar ac atgyfeirio cleifion ymlaen i gael diagnosis cynnar. Rydym yn ddiolchgar i Moondance am ariannu’r prosiect arloesol hwn.”

Ar ôl clywed am y gwasanaeth, dywedodd Nia Griffith AS: “Mae’r gwasanaeth hwn yn ffordd wirioneddol gadarnhaol i annog pobl i geisio cymorth os ydyn nhw’n profi’r symptomau perthnasol. Mae lledaenu’r neges am ddiagnosis cynnar mor bwysig i achub bywydau.”

Gwahoddwyd aelodau etholedig Sir Gaerfyrddin i ymweld â phrosiect LUMEN i gwrdd â'r tîm a dysgu mwy am sut mae'r prosiect yn galluogi diagnosis cynnar.

Os oes gennych chi, aelod o'r teulu, neu ffrind unrhyw un o'r symptomau uchod, ffoniwch 0300 30366142 - dydd Llun i ddydd Gwener 9am-2pm i siarad â thîm LUMEN.

I gael rhagor o wybodaeth am Moondance Cancer Initiative ewch i’w tudalen we: https://moondance-cancer.wales/