Dyn o Aberystwyth yn cael triniaeth "dosbarth cyntaf" yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais ar ôl diagnosis COVID-19

Mae dyn 56 mlwydd oed o Aberystwyth wedi canmol tîm ymroddedig o feddygon, nyrsys  a therapyddion a dreuliodd bum wythnos yn gofalu amdano ar ôl iddo gael ei daro yn wael gan coronafeirws - oriau'n unig cyn i'r DU ddechrau cyfyngiadau symud Cenedlaethol.

Mae’r gweithiwr cynnal a chadw eiddo heini a iach, Martyn Groom wedi dweud sut mewn cyfnod o 90 munud, yr aeth o fwynhau rholyn bacwn a phaned o de i fod yn gaeth i’r gwely, yn dioddef o gryndod, twymyn, blinder a chyfog.

Yn ffodus, diolch i ofal o'r safon uchaf a gafodd gan dîm o glinigwyr o dan arweiniad yr ymgynghorwyr ym Mronglais Dr Donogh McKeogh a Dr Lenka Raisova, dechreuodd Martyn wella o niwmonia COVID - ac mae bellach yn gwella yn ôl yn ei gartref yn Llanfarian gyda’i wraig Cheryl, Nyrs Glinigol Arbenigol yn Ysbyty Bronglais.

Dywedodd Martyn: "Roedd yn gyflym iawn.  Es i i'r gwaith ar y 23ain o Fawrth gyda cwpl o ffrindiau ac roedd gen i rholyn bacwn ar gyfer brecwast.  Yna cawsom newyddion am y cyfyngiadau symud a phenderfynom i roi’r gorau iddi.  

"Fe wnaethon nhw fy ngollwng yn ôl adref a chefais gwpanaid o de – roedd hynny tua 10.30 yn y bore – ac erbyn 11.30 roeddwn i’n crynu yn y gwely, gyda thwymyn, yn teimlo'n sâl, yn swrth. Daeth yn llythrennol fel switsh golau, dyna pa mor gyflym yr oedd.  Dim peswch, dim byd - dim symptomau hyd at y foment y tarodd fi.

"Roeddwn i yn y gwely gartref am naw diwrnod ac roeddwn yn sâl iawn yn ystod y cyfnod hwnnw. Euthum i’r Adran Achosion Brys ac fe'm cymerwyd i'r uned ynysu lle bu iddynt dynnu gwaed a pherfformio pelydr-X ar y frest, ac yna fe drosglwyddon nhw i ward COVID ble cefais fy mhrofi am y firws. 

“Er gwaethaf cael tymheredd a pheswch, doeddwn i ddim yn teimlo yn fyr fy anadl cyn i mi gael fy nerbyn. Roeddwn i'n teimlo'n well ar ôl cael hylifau mewnwythiennol a therapi ocsigen ond yna, yn union fel roeddwn i'n dechrau teimlo ychydig yn well, datblygodd y niwmonia ”

Yn ystod y pum wythnos hynny, cafodd Martyn ei drin ag ocsigen ar ffurf peiriant gwasgedd aer cadarnhaol parhaus (CPAP) – math o awyru anymyrrol – ond datgelodd pa mor agos yr oedd wedi dod i gael ei dderbyn i uned gofal dwys yr ysbyty.

"Roedd fy nghynllun triniaeth yn gweithio i mi, doedd dim rhaid i mi gael fy awyru er fy mod yn agos iawn ato. Bu iddynt ffonio fy ngwraig a dweud ei bod yn debygol y byddai angen mynd â fi i'r Uned Gofal Dwys, ond fe lwyddais i’w ymladd ac osgoi cael fy awyru.

"Alla i ddim canmol Dr McKeogh a Dr Raisova a'r staff nyrsio ddigon , roedden nhw o’r radd flaenaf.

“Rwy’n ôl adref nawr a gallaf gerdded tua 100 llath cyn i mi fynd allan o wynt. Rwy'n gwella'n araf gyda chefnogaeth y dietegwyr a'r ffisiotherapyddion. Dair wythnos yn ôl roeddwn i mewn lle hollol wahanol angen cymorth i gerdded hyd yn oed i'r ystafell ymolchi ac oddi yno. ”

Ychwanegodd Dr Donogh McKeogh, arweinydd COVID-19 yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais: "Dysgom ni lawer drwy drin Martyn. Roedd yn un o'r cleifion cyntaf yn yr ysbyty yn lleol gyda'r clefyd hwn, ac roedd yn sâl iawn ar un adeg. Ef yw'r claf cyntaf i mi ei drin erioed gyda CPAP ac fe weithiodd yn dda iawn ar gyfer ei lefelau ocsigen ac fe ddysgom o hynny.

"Roeddwn yn ddiolchgar o gael gweithio gyda rhywun mor barod, gyda meddylfryd mor gadarnhaol. Rwy'n siwr y bydd agwedd yn gwneud gwahaniaeth mawr i'w adferiad hefyd, yn ei barodrwydd i weithio ar yr ymarferion a roddwyd iddo."

Mae tîm amlddisgyblaethol yn parhau i gefnogi Martyn ar ei daith adfer.

Esboniodd Paul Humphrey, Uwch Ymarferydd Ffisiotherapi Anadlol: “Ni ddylai goroesi fod i fesur canlyniad yn unig ar gyfer ein cleifion. Dyma ddechrau taith hir, feichus y claf yn ôl i iechyd a lles. Mae cleifion yn aml yn adrodd y gall yr effaith seicolegol ac emosiynol, yn ogystal â'r canlyniadau corfforol, ddylanwadu'n negyddol ar eu bywyd am flynyddoedd. Felly mae’r adefydlu, sy'n digwydd yn yr ysbyty a gartref neu yn y gymuned, yn bwysig iawn i fynd i'r afael ag ystod o elfennau sy'n ymwneud â llesiant yn dilyn salwch critigol. Mae hyn yn cynnwys materion fel blinder a gwendid, a diffyg anadl, sy'n rhoi cymaint o faich ar unigolion yn gorfforol, yn emosiynol ac yn seicolegol."

Ac i Martyn, ble mae ei ddwy ferch, Hannah, 27, a Lucy, 26 ill dwy yn gweithio i’r GIG, mae'r neges i'r cyhoedd yn syml.

"Mae COVID-19 yn glefyd difrifol ac er nad oes gwellhad iddo eto, mae gobaith bob amser.

Mae llawer o ffocws ar faint o bobl sydd, yn anffodus, wedi marw ohono, ond ni fyddant byth yn dweud ar ddiwedd y newyddion fod 2,000 o bobl wedi gwella ac wedi mynd adref heddiw.

"Fe wnes i droi yn 56 tra roeddwn yn yr ysbyty – gallu mynd adref at fy nheulu oedd yr anrheg orau erioed."

Dywedodd Steve Moore, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae pob stori adfer a glywn yn rhoi gobaith a sicrwydd inni, ond maent hefyd yn ein hatgoffa pa mor ddifrifol yw’r cyflwr hwn. Byddwn yn annog ein cymunedau i barhau i ddilyn cyfyngiadau Llywodraeth Cymru ac aros gartref pryd bynnag y bo modd. ”