Neidio i'r prif gynnwy

Dweud eich dweud am ganolfan iechyd a lles Abergwaun

Llun o ofal sylfaenol

9 Awst 2022

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) yn atgoffa pobl bod ganddyn nhw amser o hyd i roi eu barn am gynlluniau i ddatblygu Canolfan Iechyd a Lles Integredig Abergwaun yn Sir Benfro.

Byddai'r ganolfan newydd arfaethedig yn cynnal y boblogaeth ar draws gogledd Sir Benfro o Solfach a Thyddewi yn y gorllewin, i Abergwaun a Threfdraeth. Gallai'r ganolfan ddarparu nifer o wasanaethau sylfaenol a chymunedol, yn dibynnu ar anghenion y cyhoedd a'r adborth a dderbyniwyd.

Ym mis Mehefin, cynhaliodd y bwrdd iechyd ddigwyddiad yng Nghanolfan Phoenix, Wdig, am y cyfleuster arfaethedig. Yn ystod y sesiwn galw heibio, roedd pobl yn gallu rhoi eu barn am yr hyn oedd yn bwysig iddynt, a’r hyn yr hoffent ei weld mewn canolfan iechyd a lles, yn ogystal â gofyn cwestiynau. Daeth bron i 80 o bobl i'r digwyddiad.

Gall y cyhoedd weld gwybodaeth am y ganolfan o hyd, a rhoi adborth trwy wefan Dweud Eich Dweud, sydd i'w chael yma(agor yn dolen newydd).

Nod hirdymor y bwrdd iechyd yw creu model gofal cymunedol integredig sy’n canolbwyntio ar y claf. Yn y pen draw, bydd cymunedau’n gweld iechyd a gofal yn symud o ganolbwyntio ar salwch i wasanaeth sy’n gweithio ar draws ffiniau i atal afiechyd neu ddirywiad mewn iechyd, gan ddarparu cymorth yn gynt, a lle bynnag y bo modd, yn nes at adref.

Dywedodd Elaine Lorton, Cyfarwyddwr Sirol Sir Benfro ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn gwerthfawrogi’r adborth a dderbyniwyd hyd yn hyn yn fawr ac yn diolch i bobl Sir Benfro am ymgysylltu â ni. Os nad ydych wedi cael cyfle eto i rannu eich barn gallwch wneud hynny hyd at ddydd Mercher 31 Awst.

“Ar ôl y dyddiad hwnnw, byddwn yn adolygu’r adborth a dderbyniwyd er mwyn deall yn llawn barn y cyhoedd, partneriaid a rhanddeiliaid. Fel rhan o'n hymrwymiad i fod yn agored ac yn dryloyw, byddwn yn gwneud yr adborth yn gyhoeddus, a fydd yn ei dro yn sicrhau bod y broses ymgysylltu yn parhau.

“Mae ymrwymiad y bwrdd iechyd i broses ymgysylltu barhaus yn rhan bwysig o ddatblygu ein hachos busnes, a fydd yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru am y cyllid.”

Mae Canolfan Iechyd a Lles Integredig Abergwaun yn cael ei datblygu mewn partneriaeth â Chyngor Sir Penfro, ac mae gwaith yn mynd rhagddo gyda phartneriaid eraill i archwilio sut y gallwn gydweithio’n agosach.