Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad Sgan Mamolaeth – Sgan 20 wythnos

Diweddariad COVID Hywel Dda

Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod bellach yn gallu symud i'r cam nesaf o ddiweddaru ein polisi ymweld. Er nad yw ymweld yn dychwelyd i sut yr oedd cyn Covid-19, rydym bellach yn gallu gweithredu rhai o'r canllawiau gan Lywodraeth Cymru.


O ddydd Llun y 3ydd Awst 2020 bydd menywod yn gallu dod â'u partner neu berson enwebedig arall i'w cefnogi pan fyddant yn cael eu sgan anomaledd a drefnwyd (sgan 20 wythnos).


Er mwyn sicrhau ein bod yn amddiffyn cleifion a staff gofynnir i'r partner / aelod arall a enwebwyd:
• gwestiynau sgrinio cyn mynychu
• gymryd camau hylendid dwylo - darperir gel alcohol
• wisgo mwgwd wyneb wrth gyrraedd y gellir ei ddarparu
Hoffem achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bob menyw a'u teuluoedd am eu dealltwriaeth wrth i ni gymryd camau i roi'r canllaw hwn ar waith. Hoffem gynghori y gall y camau uchod newid yn dibynnu ar y sefyllfa bandemig Covid-19 gyfredol.