Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad - Newid dros dro i brif fynedfa yn Ysbyty Glangwili

Mae prif fynedfa Ysbyty Glangwili yn parhau i fod ar gau dros dro fel rhan o waith parhaus i wella cyfleusterau mamolaeth yn yr ysbyty.

Mae'r gwaith yn debygol o redeg heibio'r dyddiad ailagor a drefnwyd, sef Mai 4, ac ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi. Cyhoeddir dyddiad ailagor diwygiedig cyn gynted â phosibl.

Bydd mynediad i Swît Cadi, Ward Cyn-enedigol, Clinig Dydd Cyn-enedigol, Uned dan Arweiniad Bydwragedd, Ward Eni a Ward Dinefwr trwy'r hen fynedfa nos.

Pan fydd y brif fynedfa ar gau, bydd y llwybr allanfa tân amgen trwy Swît Cadi . Bydd arwyddion allanfa dân yn cael eu harddangos.

Bydd mynediad i weddill yr ysbyty trwy fynedfa Cleifion Allanol.

 

Bydd arwyddion mewn lle a bydd stondin cwrdd a chyfarch gyda cydlynydd yn yr adran Cleifion Allanol.