Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad: Meddygfa Solfach

15 Rhagfyr 2023

Yn dilyn penderfyniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) i redeg Meddygfa Solfach fel Practis a Reolir ym mis Ebrill eleni, mae’r Bwrdd Iechyd yn falch o gadarnhau sefydlu gweithgor o randdeiliaid lleol i helpu i lunio dyfodol gwasanaethau meddygon teulu ar draws Penrhyn Tyddewi yng Ngogledd Sir Benfro.

Bydd Gweithgor y Penrhyn yn gweithio gyda rhanddeiliaid lleol i ddod o hyd i atebion mwy hirdymor i gynaliadwyedd gwasanaethau meddygon teulu a gofal sylfaenol ar draws Solfach a Thyddewi. Mae'r grŵp wedi cyfarfod ddwywaith, ac mae cyfarfod arall wedi'i drefnu ar gyfer y Flwyddyn Newydd.

Dywedodd John Evans, Cyfarwyddwr Sir Benfro ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn parhau i weithio gyda Gweithgor Meddygfa Solfach, Meddygfa Dewi Sant a chynrychiolwyr y Gymuned i ddatblygu gweledigaeth a rennir ar gyfer gwasanaethau i gefnogi cleifion ar draws yr ardal wledig iawn hon. Ein blaenoriaeth yn y misoedd diwethaf fu sefydlogi'r Practis, cefnogi'r tîm a datblygu'r cymysgedd sgiliau cywir.

“Ar adeg pan fo’r ddau bractis meddygon teulu dan bwysau, mae’n bwysig ein bod ni’n parhau i ganolbwyntio ar y darlun hirdymor o sut rydyn ni’n datblygu gwasanaethau cynaliadwy.”

Yn y cyfamser, mae recriwtio i dîm Meddygfa Solfach wedi parhau gyda Nyrs Arweiniol bellach yn ei swydd a'r tîm nyrsio bellach wedi'i staffio'n llawn. Mae meddygon locwm rheolaidd yn gweithio ochr yn ochr â Dr Unversucht ac mae ymdrechion i recriwtio mwy o feddygon teulu i rolau parhaol yn parhau.

Mae gwaith i atgyfnerthu gwasanaethau ym Meddygfa Solfach hefyd yn parhau. Mae mân waith adeiladu a chynnal a chadw i'r feddygfa yn digwydd ym mis Rhagfyr a mis Ionawr. Bydd y Practis yn parhau ar agor fel arfer drwy hyn, ac mae'r Bwrdd Iechyd yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi.

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol a Gwasanaethau Hirdymor ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae wedi bod yn flwyddyn heriol i’r tîm ym Meddygfa Solfach ac mae’r gefnogaeth gan y Gymuned leol wedi helpu’r cyfnod pontio hwn yn fawr.

“Rwy’n falch iawn o gadarnhau bod Meddygfa Solfach a Meddygfa Dewi Sant unwaith eto wedi nodi’r nifer uchaf o unrhyw bractis yn y Bwrdd Iechyd sy’n cael y brechlyn ffliw ac mae tîm imiwneiddio’r Bwrdd Iechyd wedi gallu cefnogi Meddygfa Dewi Sant gyda’u rhaglen brechu Covid.

“Mae nifer uchel sy’n cael eu brechu yn dangos parodrwydd cleifion i chwarae eu rhan i aros yn iach dros y gaeaf. Mae hwn yn gyflawniad enfawr i dimau bach mewn Practisau prysur ac yn adlewyrchu ymroddiad a threfniadaeth y timau yn Solfach a Thyddewi.

“Wrth i ni edrych ymlaen at y Flwyddyn Newydd, mae’r Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i weithio fel rhan o Weithgor y Penrhyn i ddod o hyd i atebion tymor hwy i gynaliadwyedd gwasanaethau Meddygon Teulu a Gofal Sylfaenol ar draws Solfach a Thyddewi.”