Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad dos atgyfnerthu COVID-19 y gwanwyn 2024

03 Ebrill 2024

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) yn dechrau cyflwyno rhaglen dos atgyfnerthu COVID-19 y gwanwyn ar 2 Ebrill, 2024.

Yn gynharach eleni, dywedodd y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) y dylid cynnig brechlyn COVID-19 i:

Bydd y mwyafrif o bractisau meddygon teulu a nifer o fferyllfeydd cymunedol ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn darparu dos atgyfnerthu COVID-19 y gwanwyn, gyda chefnogaeth y bwrdd iechyd a fydd yn defnyddio canolfannau brechu yn Llanelli, Neyland a Chwm Cou, a lleoliadau cymunedol eraill yn ôl yr angen.

Bydd rhaglen dos atgyfnerthu’r gwanwyn COVID-19 yn rhedeg tan 30 Mehefin, 2024 gyda rhywfaint o hyblygrwydd cyfyngedig tan fis Gorffennaf ar gyfer y rhai na allant dderbyn pigiad atgyfnerthu o fewn prif ffenestr y rhaglen, oherwydd salwch.

Dywedodd Dr Ardiana Gjini, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus BIP Hywel Dda: “Diolch i raglen frechu effeithiol ynghyd ag imiwnedd sy’n deillio’n naturiol yn y boblogaeth, mae COVID-19 bellach yn glefyd cymharol ysgafn i’r mwyafrif helaeth o bobl.

“Mae’r cynnydd parhaus hwn yn imiwnedd y boblogaeth yn caniatáu rhaglen wedi’i thargedu’n well sydd wedi’i hanelu at y rhai sydd â risg uwch o ddatblygu clefyd COVID-19 difrifol.

“Trwy gydol y pandemig, mae pobl hŷn wedi bod ymhlith y rhai sydd fwyaf tebygol o brofi afiechyd difrifol os ydynt wedi’u heintio gan y firws SARS-CoV-2, gyda’r risg uchaf ymhlith y rhai 85 oed a hŷn.

“Dros y tri mis nesaf, bydd ein rhaglen yn sicrhau bod yr aelodau mwyaf agored i niwed yn ein cymuned yn cael cynnig brechlyn atgyfnerthu.

“Hoffwn ddiolch i gydweithwyr ym maes gofal sylfaenol am gefnogi’r rhaglen frechu bwysig hon a phawb yn y bwrdd iechyd sy’n parhau i weithio i sicrhau bod y brechlyn hwn yn hygyrch i’n poblogaeth fwyaf agored i niwed.”

Bydd rhaglen atgyfnerthu COVID-19 y gwanwyn yn canolbwyntio ar y rhai sy’n wynebu’r risg fwyaf yn gyntaf. Bydd pobl gymwys yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn cael eu gwahodd i gael pigiad atgyfnerthu COVID-19 y gwanwyn tua 6 mis ar ôl eu dos olaf ond caiff ei roi o 3 mis ar ôl y brechlyn diwethaf.

Bydd unrhyw un sy’n troi’n 75 oed rhwng Ebrill a Mehefin yn cael eu galw am frechu yn ystod yr ymgyrch.

Gofynnir i bobl aros i gael apwyntiad i gysylltu â nhw, ond os oes gan unrhyw un unrhyw gwestiynau am y pigiad atgyfnerthu COVID-19 y gwanwyn a sut i gael gafael arno, cysylltwch â hyb cyfathrebu BIP Hywel Dda ar 0300 303 8322 neu  ask.hdd@wales.nhs.uk