Neidio i'r prif gynnwy

Diogelu'r GIG dros dymor y Nadolig

18 Rhagfyr 2023

Gyda thymor y Nadolig ar ein gwarthaf, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn annog pobl i helpu i ddiogelu adnoddau gwerthfawr y GIG ac i beidio â mynd i’n hadrannau damweiniau ac achosion brys prysur oni bai bod ganddynt argyfwng difrifol sy’n bygwth bywyd.

Er mwyn sicrhau y gallwn drin cleifion yn briodol, ac er mwyn osgoi ambiwlansys yn ciwio y tu allan i’n Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys neu’n cael eu dargyfeirio i ysbytai eraill, mae’r bwrdd iechyd yn gofyn i bobl ddewis eu gwasanaethau gofal iechyd yn ofalus iawn, fel ein bod ond yn gweld pobl ag anghenion gofal brys neu argyfwng mewn adrannau damweiniau ac achosion brys.

Os oes gennych chi anghenion gofal brys na allant aros ond nad ydynt yn argyfyngau 999, ffoniwch 111 ar gyfer Galw Iechyd Cymru am gyngor a chymorth iechyd. Mae’r rhif am ddim i’w ffonio ac mae’r gwasanaeth hwn ar gael hyd yn oed pan fydd eich meddygfa ar agor. 111 hefyd yw’r rhif sydd ei angen arnoch i gael mynediad at wasanaethau Meddygon Teulu y tu allan i oriau ar draws ein hardal.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau amgen yma Brys ac allan o oriau - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (gig.cymru)

Ynghyd â’n partneriaid mewn awdurdodau lleol, y trydydd sector ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, rydym yn canolbwyntio ar reoli’r capasiti sydd gennym yn ein hysbytai acíwt a’n hadrannau achosion brys prysur, tra hefyd yn lleihau faint o amser y mae angen i gleifion ei dreulio mewn gwely ysbyty, drwy ddarparu cymaint o ofal nad yw’n ofal brys a gofal dilynol y tu allan i amgylchedd yr ysbyty ag y gallwn.

Os oes gennych ffrind, aelod o'r teulu neu rywun annwyl sy'n ddigon iach yn feddygol i gael eich rhyddhau o'r ysbyty, helpwch ni drwy ddod i'w casglu'n brydlon. Bydd hyn yn ein galluogi i ryddhau gwelyau yn gyflymach ar gyfer cleifion sy'n ddifrifol wael a chadw llif y cleifion yn gyson trwy ein hysbytai. I gael gwybod mwy am y profiad claf mewnol cliciwch yma  Gwybodaeth i gleifion mewnol - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (gig.cymru)

Dywedodd Andrew Carruthers, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau yn Hywel Dda: “Hoffwn yn gyntaf ddweud ‘diolch’ o galon i chi, ein gweithlu clinigol am eich ymdrech diflino a’ch penderfyniad i ddarparu gofal o’r ansawdd gorau posibl i’n cleifion a’n cymunedau yn aml yn yr amgylchiadau anoddaf.

“Rydych chi'n ymgorfforiad iawn o bopeth sy'n dda am y GIG a'r hyn y mae'r gwasanaeth iechyd yn ei gynrychioli, a dylech chi i gyd fod yn falch iawn.

“Mae’r heriau o gael mynediad at ofal a thriniaeth, yn enwedig yn y cyfnod ôl-Covid, wedi’u dogfennu’n dda yn genedlaethol ac yn anffodus nid yw Hywel Dda yn imiwn i’r rhain. Y ffordd yr ydym yn ceisio rheoli’r heriau a wynebwn yw drwy fabwysiadu dull gweithredu, sy’n dod â’n hysbytai acíwt, gofal sylfaenol a gwasanaethau cymunedol, y gwasanaeth ambiwlans, awdurdodau lleol a’r trydydd sector ynghyd. Mae angen i bawb chwarae eu rhan a helpu – ac mae ein cyhoedd a’n cleifion yn gwbl allweddol i hyn.”

Os ydych chi'n sâl ac yn ansicr beth i'w wneud, gallwch ymweld â'r  gwiriwr symptomau  ar-lein i groeswirio'ch symptomau yn erbyn nifer o anhwylderau cyffredin ac, os cewch gyfarwyddyd, ffoniwch GIG 111 Cymru. Os oes angen i chi siarad â rhywun ar frys am eich iechyd meddwl, neu os ydych yn pryderu am aelod o’r teulu, ffoniwch GIG 111 Cymru a dewiswch opsiwn 2 i gael eich rhoi mewn cysylltiad uniongyrchol â gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol yn eich ardal. Mae’r rhif am ddim i’w ffonio o linell dir neu ffôn symudol, hyd yn oed os nad oes gennych unrhyw gredyd ar ôl.

Mynychwch Adran Achosion Brys dim ond os oes gennych salwch sy’n peryglu bywyd neu anaf difrifol, megis:

  • Anawsterau anadlu difrifol
  • Poen difrifol neu waedu
  • Poen yn y frest neu amheuaeth o strôc
  • Anafiadau trawma difrifol (ee o ddamwain car)

Os oes gennych anaf llai difrifol, yna ewch i un o'n Hunedau Mân Anafiadau. Gallant drin oedolion a phlant dros 12 mis oed, gydag anafiadau fel:

  • Mân glwyfau
  • Mân losgiadau neu sgaldiadau
  • Brathiadau pryfed
  • Mân anafiadau i goes, pen neu wyneb (* gweler y nodyn)
  • Corffyn estron yn y trwyn neu'r glust

Mae gennym wasanaethau fân anafiadau neu gerdded i mewn yng Nghanolfan Gofal Integredig Aberteifi (Llun - Gwener 8.00am - 6.30pm. Gwyliau Banc, 9.00am - 4:30pm) ac Ysbyty Dinbych-y-pysgod (Dydd Llun - Dydd Gwener 10.00am - 5.00pm gan gynnwys Gwyliau Banc ) yn ogystal ag yn ein prif ysbytai acíwt. Am oriau agor, gwiriwch ein wefanHafan - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (gig.cymru)

Gall llawer o fferyllfeydd cymunedol hefyd ddarparu gwasanaethau cerdded i mewn, anhwylderau cyffredin neu frysbennu a thrin heb apwyntiad. Gallwch ddarganfod mwy yma:

https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/fferyllfa/

Mae eich cefnogaeth nid yn unig yn helpu eich anwylyd, ond mae'n gefnogaeth enfawr i'r GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol hefyd.

Helpwch ni i wneud ein gwasanaeth yn fwy diogel trwy rannu'r wybodaeth hon gyda ffrindiau a theulu.

Diolch am eich cefnogaeth barhaus.

DIWEDD