Neidio i'r prif gynnwy

Diogelu eich hun gyda brechlyn COVID-19 wrth i sesiynau galw heibio ddechrau ar draws BIP Hywel Dda

Arwydd clinig brechu COVID-19

23 Tachwedd 2023

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) wedi agor ei ganolfannau brechu ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro i bobl gymwys alw heibio i dderbyn eu brechlyn COVID-19, nid oes angen apwyntiad.

Gyda phwysau ychwanegol y gaeaf ar y GIG, mae’n bwysicach nag erioed bod y rhai sy’n gymwys i gael eu brechu er mwyn helpu i’w hatal rhag mynd yn ddifrifol wael ac amddiffyn y GIG y gaeaf hwn.

Mae pobl hŷn a’r rhai sydd â chyflyrau meddygol sylfaenol fel clefyd cardiofasgwlaidd, diabetes, canser neu glefyd anadlol cronig yn fwy tebygol o ddatblygu salwch difrifol a bod angen triniaeth ysbyty arnynt os ydynt yn dal COVID-19.

Gall pobl gymwys 12 oed a hŷn alw heibio rhwng nawr a’r Nadolig, fodd bynnag, mae’r bwrdd iechyd yn gofyn i unrhyw un sydd ag apwyntiad eisoes wedi’i drefnu gyda’u meddyg teulu neu fferyllfa gymunedol i gadw hwn lle bynnag y bo modd.

Os oes angen brechlyn ffliw arnoch hefyd, bydd y bwrdd iechyd hefyd yn cynnig hwn i chi pan fyddwch yn galw heibio os nad oes gennych apwyntiad ar y gweill i gael hwn gan eich meddyg teulu, fferyllfa gymunedol neu dîm nyrsio ysgol.

Dywedodd Dr Ardiana Gjini, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Ers mis Medi, mae’r Bwrdd Iechyd, meddygon teulu a fferyllfeydd cymunedol wedi gwahodd trigolion cymwys BIP Hywel Dda i dderbyn eu brechlynnau. Os nad ydych wedi cael cyfle i gael eich brechlyn eto, nawr yw’r amser i weithredu.

“Gyda thywydd oerach a chynulliadau dros y Nadolig gyda’n hanwyliaid hŷn a chlinigol agosaf, cael eich brechu neu gefnogi eich anwyliaid i gael y brechlyn yw’r anrheg gorau y gallwch ei roi.

“Mae brechlynnau'n dysgu'ch system imiwnedd sut i'ch amddiffyn rhag afiechydon. Mae'n llawer mwy diogel i'ch system imiwnedd ddysgu hyn trwy frechu na thrwy ddal y clefydau a cheisio eu trin.

“Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y brechlyn neu a ydych yn gymwys, mae croeso i chi gysylltu â’r bwrdd iechyd ar 0300 303 8322 neu drwy e-bostio ask.hdd@wales.nhs.uk a byddwn yn hapus i’ch cynghori.”

Rydych yn gymwys i gael brechiad atgyfnerthol yr hydref COVID-19 os ydych:

  • rhwng chwe mis a 64 oed mewn grwpiau risg clinigol
  • rhywun ag anabledd dysgu
  • 65 oed a hŷn
  • beichiog
  • byw mewn cartref gofal i oedolion hŷn
  • 12-64 oed sy'n byw gyda rhywun sydd â system imiwnedd wan
  • gofalwr 16 oed a throsodd
  • Gweithiwr iechyd rheng flaen neu weithiwr gofal cymdeithasol
  • gweithio mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn

Sylwch fod y sesiynau galw heibio canlynol ar gyfer pobl 12 oed a hŷn. Os ydych chi neu aelod o’ch teulu o dan 12 oed ac yn gymwys i gael brechlyn COVID-19, cysylltwch â’ch practis meddyg teulu neu fel arall cysylltwch â’r bwrdd iechyd ar 0300 303 8322 neu e-bostiwch  ask.hdd@wales.nhs.uk.

Sir Gaerfyrddin

  • Llanelli, Uned 2a, Ystâd Ddiwydiannol Dafen, Heol Cropin, SA14 8QW – oriau agor galw heibio rhwng 9.15am a 5.30pm
    • Dydd Llun 27 Tachwedd 
    • Dydd Mercher 29 Tachwedd 
    • Dydd Iau 30 Tachwedd 
    • Dydd Gwener 1 Rhagfyr 
    • Dydd Llun 4 Rhagfyr i ddydd Gwener 22 Rhagfyr – Bob dydd Llun, dydd Mercher, dydd Iau a dydd Gwener 
       
  • Cae Hyfforddi Clwb Rygbi a Phêl-droed Cwins Caerfyrddin, Heol Castell Pigyn, Abergwili, SA31 2JJ – oriau agor galw heibio rhwng 10.00am a 4.30pm   
    • Rhwng 28 Tachwedd a 12 Rhagfyr - Bob dydd Mawrth 

Sir Benfro

  • Neyland, Uned 1 Parc Manwerthu Honeyborough, Neyland, Sir Benfro, SA73 1SE – oriau agor galw heibio rhwng 9.15am a 5.30pm 
    • Hyd at 22 Rhagfyr - dydd Llun i ddydd Gwener  

Ceredigion

  • Cwm Cou, Ysgol Trewen, Cwm-Cou, Castell Newydd Emlyn SA38 9PE – oriau agor galw heibio rhwng 9.30am a 5.30pm
    • Hyd at 15 Rhagfyr - Bob dydd Mawrth, dydd Mercher, dydd Iau, dydd Gwener  
    • Dydd Llun 18 Rhagfyr
    • Dydd Mawrth 19 Rhagfyr
    • Dydd Mercher 20 Rhagfyr
    • Dydd Iau 21 Rhagfyr 
    • Dydd Gwener 22 Rhagfyr
       
  • Llyfrgell Thomas Parry, Campws Llanbadarn, Aberystwyth, SY23 3AS – oriau agor galw heibio rhwng 10.00am a 4.30pm
    • Hyd at 11 Rhagfyr – Bob dydd Llun