Neidio i'r prif gynnwy

Digwyddiad galw heibio cyhoeddus ychwanegol

30 Ionawr 2024

Cynhelir digwyddiad galw heibio cyhoeddus ychwanegol yn Nhalacharn yr wythnos nesaf (dydd Mawrth, 6 Chwefror)  i roi cyfle pellach i drigolion drafod y cais gan Feddygfa Coach and Horses yn Sanclêr, i gau eu Meddygfa Gangen Talacharn.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda sy'n trefnu'r digwyddiad, a fydd yn cael ei gynnal rhwng 3.00pm a 6.00pm yn Neuadd Goffa Talacharn.

Derbyniodd y Bwrdd Iechyd gais gan Feddygfa Coach and Horses yn Sanclêr, i gau eu Meddygfa Gangen yn Nhalacharn yn Sir Gaerfyrddin y llynedd.

Dywedodd Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Jill Paterson: “Mewn ymateb i nifer y cleifion sydd wedi mynegi dymuniad i gymryd rhan yn y digwyddiad ymgysylltu â’r cyhoedd ond nad oeddent yn teimlo eu bod yn gallu codi eu holl bryderon yn y sesiwn ym mis Tachwedd 2023 cynhelir digwyddiad ymgysylltu pellach ar gyfer y rhai nad ydynt wedi cael y cyfle i rannu eu barn hyd yn hyn.

“Bydd yr hyn yr ydym wedi’i glywed gan gleifion a rhanddeiliaid yn y rhaglen ymgysylltu hyd yn hyn yn cael ei lunio gyda’r safbwyntiau o ail ddigwyddiad, a’r digwyddiad olaf, i’w gynnal ddydd Mawrth, 6 Chwefror 2024. Bydd argymhelliad ar y ffordd ymlaen yn cael ei ystyried gan y Bwrdd Iechyd ym mis Mawrth 2024.”

Y prif resymau a roddwyd gan y Practis dros y cais i gau meddygfa gangen Talacharn yw:

  • Mae’r Practis wedi wynebu problemau mawr o ran cynnal ei weithlu craidd ac nid yw wedi gallu darparu sesiynau meddygon teulu ym Meddygfa Cangen Talacharn ers mis Ebrill 2020.
  • Er mwyn diogelu darpariaeth gwasanaethau meddygol cyffredinol, mae'r Partneriaid Meddygon Teulu yn teimlo y bydd hyn yn caniatáu iddynt ganoli eu staff a’u gwasanaethau, a fydd yn ei dro yn cefnogi cynaliadwyedd y Practis Meddyg Teulu yn y dyfodol.
  • Mae heriau ledled y DU o ran recriwtio a chadw meddygon teulu.

DIWEDD