Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad o Sefyllfa Hywel Dda 30 Rhagfyr 2021

Bocs glas gyda geiriau datganiad i

Mae ein staff yn gweithio'n ddiflino bob dydd yn wyneb pwysau a heriau ddigyffelyb. Maent yn parhau i fynd yr ail gam i flaenoriaethu gofal a thriniaeth cleifion sydd angeb gofal brys. Rydym yn hynod falch o'r ymdrech y mae ein gweithlu cyfan yn parhau i'w wneud ar y cyd. Yn anffodus, gallwn gadarnhau bod y don bresennol o heintiau Covid-19 yn dechrau cael effaith negyddol ddifrifol, gydag absenoldebau staff yn sylweddol uwch na'r arfer ar draws ysbytai, gwasanaethau cymunedol a gofal sylfaenol, gan gynnwys meddygfeydd. Mae hyn yn golygu efallai y bydd yn rhaid i chi aros yn hirach na'r arfer, ond mae'r holl wasanaethau'n parhau i flaenoriaethu yn ôl angen clinigol. Rydym yn gofyn i'n cymunedau, cleifion, ymwelwyr a'r cyhoedd i ddilyn y canllawiau isod:

  • Cofiwch fod cefnogaeth ar gael i chi ofalu amdanoch chi'ch hun pan fo hynny'n briodol, er enghraifft yn https://111.wales.nhs.uk/livewell/caringforyourself/ a thrwy’r gwiriwr symptomau ar-lein.
  • Gall ein fferyllfeydd cymunedol ddarparu rhywfaint o ofal galw-heibio, a rhai triniaethau ar gyfer anhwylderau cyffredin, dewch o hyd i’ch gwasanaeth agosaf yma: https://hduhb.nhs.wales/healthcare/services-and-teams/pharmacy/; yn ogystal â’n hunedau mân anafiadau: https://hduhb.nhs.wales/healthcare/hospitals-and-centres/minor-injuries-units/
  • Os oes gennych argyfwng difrifol sy'n peryglu bywyd, parhewch i ffonio 999.
  • Os yw'n fater brys (ond nid yn argyfwng), trowch at wiriwr symptomau GIG 111 Cymru, deialwch 111, neu ceisiwch ofal brys trwy eich meddyg teulu.
  • Os oes gennych berthynas neu rywun annwyl yn yr ysbyty sy'n ffit yn feddygol ond sy'n aros i gael ei ryddhau, efallai y gallwch ein helpu trwy ddarparu gofal tymor byr neu ystyried lleoliadau dros dro mewn cartref gofal.
  • Mae ein rhaglenni brechu ar gyfer COVID-19 a'r ffliw yn parhau ar raddfa na welwyd ei thebyg o'r blaen ac yn parhau i fod yn rhan allweddol o'n hamddiffyniad yn erbyn y firysau hyn. Mae ein holl ganolfannau brechu torfol bellach yn cynnig sesiynau galw heibio ar gyfer brechlynnau cyntaf, ail, trydydd ac atgyfnerthu COVID-19 ar gyfer y rhai sy'n gymwys - ewch i'r ganolfan sy’n lleol i chi os nad ydych chi eisoes wedi gwneud hynny. I gael gwybodaeth am gymhwysedd ac amseroedd agor, ewch i https://hduhb.nhs.wales/healthcare/covid-19-information/covid-19-vaccination-programme/
  • Dilynwch ganllawiau Llywodraeth Cymru a chanllawiau lleol.
  • Gweithiwch o adref pryd bynnag y gallwch os yw hynny’n briodol.
  • Byddwch yn wyliadwrus gydag arferion hylendid da er mwyn osgoi lledaenu haint yn ein cymunedau.
  • Mae awyru da yn bwysig os ydych dan do a chofiwch fod bod yn yr awyr agored yn fwy diogel lle bo hynny'n bosibl.
  • Cadwch bellter diogel.
  • Cofiwch wneud hunan-brawf llif ochrol yn enwedig cyn mynd i sefyllfaoedd risg uwch, megis treulio amser mewn lleoedd gorlawn neu gaeedig; ymweld â phobl sydd â risg uwch o salwch difrifol o COVID-19, neu deithio i ardaloedd eraill yng Nghymru neu'r DU.
  • Gellir cael citiau hunan-brawf llif ochrol trwy archebu ar-lein i'w danfon i’ch cartref https://www.gov.uk/order-coronavirus-rapid-lateral-flow-tests neu trwy gasglu'n lleol o'r mwyafrif o fferyllfeydd cymunedol: Gwiriwch yma am y fferyllfeydd yn eich ardal chi sy’n eu darparu Cofiwch roi gwybod am ganlyniadau eich profion, negyddol neu gadarnhaol, ar borth Llywodraeth y DU yma https://www.gov.uk/report-covid19-result/ Os yw’n bositif, peidiwch â mentro allan. Dylech hunan-ynysu a threfnu prawf PCR – bwciwch yma https://gov.wales/get-tested-coronavirus-covid-19 neu ffoniwch 119. O.N. rydym yn ymwybodol bod galw digynsail cenedlaethol am brofion PCR a llif ochrol. Ar adegau, i gefnogi dosbarthiad ac aros o fewn y capasiti yn y labordai, efallai y bydd seibiannau dros dro wrth archebu ac efallai na fyddwch yn gallu cael y profion sydd eu hangen arnoch o gov.uk. Mae'r Llywodraeth yn eich cynghori i barhau i wirio bob ychydig oriau wrth i fwy o brofion PCR a llif ochrol ddod ar gael bob dydd.

Os oes angen i chi ddod i'n hysbytai ar unrhyw adeg, rhaid i chi wneud y canlynol:

  • Cynnal prawf llif ochrol gartref a chael canlyniad negyddol o'r prawf hwnnw cyn teithio i'r ysbyty.
  • Gwisgo mwgwd cyn mynd i mewn i’r ysbyty;
  • Sicrhau eich bod yn cadw pellter o ddau fetr wrth eraill;
  • Golchi eich dwylo yn rheolaidd;

Os oes angen i chi ymweld â rhywun yn yr ysbyty, cofiwch fod yn rhaid trefnu hyn ymlaen llaw gyda phrif nyrs y ward. Mae mwy o wybodaeth am ymweld ag ysbytai ar gael ar ein gwefan ond nodwch y gall hyn newid ar fyr rybudd.