Neidio i'r prif gynnwy

Cysylltu â Charedigrwydd – Ymgyrch newydd yn lansio

Bwriad Cysylltu â Charedigrwydd ydy creu dealltwriaeth am les a dylanwad caredigrwydd arnom ni ein hunain, ac eraill yn ein cymuned.

“Mae astudiaethau gwyddonol wedi dangos fod gweithredoedd caredig yn gwneud gwahaniaeth mawr i les a fod caredigrwydd yn dda i chi,” dywed Rebecca Evans, Uwch Sywddog Iechyd Cyhoeddus o Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Pan mae pobl yn gweld buddion eich caredigrwydd, mi fyddant yn cael eu hysbrydoli i gymryd rhan, sy’n creu adwaith cadwyn positif,” ychwanegodd Wyndham Williams, Swyddog Datblygu Sir Benfro – Cysylltwyr Cymunedol A Mwy o Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro

Fel rhan o’r ymgyrch, mi fydd y partneriaid rhanbarthol yn datblygu rhwydweithiau cymunedol cryfach er mwyn creu amgylchedd ble mae gweithredoedd caredig yn gallu ffynnu a digwydd yn naturiol.

“Y bwriad ydy ysbrydoli pobl i fod yn ddinasyddion fwy gweithgar, a’u hannog i gymryd camau postif i frwydro yn erbyn unigrwydd yn eu hardal lleol,” dywedodd Tessa Hodgson, Aeold Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol yn Sir Benfro.

Mi fydd y gwaith yn seiliedig ar ddull o weithio rhwng cenhedlaethau, sy’n helpu cysylltiadau newydd i ddatblygu’n naturiol rhwng pawb ag unrhyw un yn ein cymunedau.

“Mae ganddon ni gyd rhywbeth i’w gynnig, rhywbeth all wneud gwahaniaeth i bobl o’n cwmpas. Gall un weithred penodol fod yn ddibwys i ni, ond gall wneud byd o wahaniaeth i berson sy’n teimlo’n unig.”

Mae Cysylltu â Charedigrwydd wedi deillio o raglen datblygwyd o fewn y Cronfa Trawsnewid Gorllewin Cymru Iachach.  Cynghorau Sir Benfro, Sir Ceredigion a Sir Gaerfyrddin, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Sir Ceredigion a Sir Gâr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru ydy’r partneriaid.

Cysylltu â Charedigrwydd Pump Neges Allweddol

  1. Mae caredigrwydd i bawb – Mae caredigrwydd yn gynhwysol, nid yw’n gosod rhwystrau ac nid yw’n gwahaniaethu – mae ar gyfer pawb!
  2. Mae caredigrwydd yn dda i ti – Mae ymchwil feddygol wedi profi fod bod yn garedig a derbyn caredigrwydd yn cael effaith gorfforol gadarnhaol arnom
  3. Mae caredigrwydd yn ein cysylltu – Mae’n dod â ni at ein gilydd ac yn ein helpu i rannu
  4. Mae caredigrwydd yn ein hamddiffyn – Profwyd fod bod yn garedig a derbyn caredigrwydd yn ein helpu i fyw bywydau hirach ac hapusach.
  5. Mae caredigrwydd yn ysbrydoli – Pan fydd eraill yn garedig rydym yn fwy tebygol o fod yn garedig ein hunain

Ac me’n dechrau gyda UN person, CHI.

Ymunwch â ni i weithredu ac i ddysgu mwy am ymgyrch Cysylltu â Charedigrwydd yng Ngorllewin Cymru, a’r dylanwad gall caredigrwydd cael ar ein hunain ac ar ein cymunedau.

Cofrestrwch heddiw a gwnewch addewid i ddyfodol fwy caredig.
Mae’n dechrau gyda chi
#CysylltuâCharedigrwydd
cysylltuacharedigrwydd.cymru

 https://twitter.com/CysyltuConnect

Pembrokeshire - https://www.facebook.com/groups/259225911891678/about/

Carmarthenshire - https://www.facebook.com/groups/1103307530047266/about/

Ceredigion - https://www.facebook.com/groups/1133691123675080