Neidio i'r prif gynnwy

Cyrchfan Parc Cenedlaethol Bluestone yn ymuno â'r frwydr yn erbyn COVID-19

Diweddariad COVID Hywel Dda

Yn sgil yr argyfwng iechyd cyhoeddus parhaus, bydd rhan o gyfleusterau helaeth Bluestone, yn ogystal â mannau agored, yn cael eu defnyddio i helpu i drin y rhai mewn angen a'r rhai sy'n gwella o'r firws.

Mae Bluestone yn ymuno ag ymdrech leol, ranbarthol a chenedlaethol i wneud popeth posibl i baratoi ar gyfer yr achosion sy'n datblygu - ac yn y pen draw arbed cymaint o fywydau â phosib. 

Mae Bluestone yn ychwanegiad sylweddol at adnoddau a chyfleusterau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, sy'n gyfrifol am iechyd a lles trigolion Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. 

Bydd aelodau tîm Bluestone yn parhau i ddarparu diogelwch a rheolaeth ar rai o'r cyfleusterau ar y safle, tra bydd y Bwrdd Iechyd yn rheoli ychwanegu adnoddau meddygol, a bydd Cyngor Sir Penfro yn arwain gwaith ar y safle. Mae manylion y personél ychwanegol sy'n ofynnol i gefnogi'r ymdrech, o dan arweiniad llawn y Bwrdd Iechyd, yn cael ei drefnu ar hyn o bryd, a bydd y cyfleuster ar gael i'r rhai mewn angen cyn gynted â phosibl. 

Dywedodd Dr Phil Kloer, Cyfarwyddwr Meddygol a Dirprwy Brif Weithredwr yn Hywel Dda: “Rydyn ni wedi dilyn esiampl y sefyllfa yn yr Eidal yn agos i ddysgu ac i helpu gyda’n cynllunio. Mae ein cydweithwyr yn Ewrop wedi darparu adborth bod llif cleifion yn ffactor hanfodol mewn ymateb i bwysau COVID-19. Felly bydd cyflwyno'r gwelyau ychwanegol hyn i gleifion yn hanfodol i'n helpu i reoli llif cleifion dros yr wythnosau nesaf. Rydym yn hynod ddiolchgar am yr holl gefnogaeth yr ydym yn ei derbyn gan Bluestone a Chyngor Sir Penfro i helpu i wneud i hyn ddigwydd ac rwy'n hyderus y bydd y cyfleuster hwn yn cynnig amgylchedd da lle gall ein cleifion wella." 

Wrth siarad yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd William McNamara, Prif Swyddog Gweithredol Bluestone: “Rydym yn byw ac yn gweithredu mewn amgylchiadau a oedd gynt yn annirnadwy. Mewn adegau fel hyn mae’n hanfodol ein bod yn dod at ein gilydd i gefnogi ein gilydd - fel teulu, fel ffrindiau ac fel cymuned. 

“Mae'n briodol fod Bluestone yn cael ei defnyddio yn yr amser hwn o angen cenedlaethol mawr. Mae pawb ohonom eisiau - ac angen - gwneud popeth o fewn ein gallu i wneud gwahaniaeth a chyfrannu at fynd i'r afael â'r argyfwng coronafirws sy'n datblygu. 

“Mae ein meddyliau a’n cydymdeimlad dwysaf gyda’r rhai sy’n cael eu heffeithio’n bersonol gan y sefyllfa hon sy’n datblygu.” 

Ychwanegodd y Cynghorydd David Simpson, Arweinydd Cyngor Sir Penfro: “Rydym yn ddiolchgar iawn i William a Thîm Bluestone am gamu ymlaen a sicrhau bod safle Bluestone ar gael. Mae'r cyfleusterau'n mynd i ddarparu adnoddau ychwanegol sylweddol i'r ardal leol wrth i ni frwydro yn erbyn yr achosion parhaus o coronafirws. 

“Gwn fod hwn yn gyfnod ansicr a phryderus i drigolion ledled Sir Benfro a Hywel Dda. Mae’r gymuned yn gwneud gwaith gwirioneddol galonogol o dynnu ynghyd - a byddwn yn dod trwy hyn gyda’n gilydd.”