Neidio i'r prif gynnwy

Cymerwch ran yn #NHSVirtualPride eleni

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn falch o fod yn rhan o gydweithrediad GIG Cymru â Pride Cymru i nodi Wythnos Rhithwir Pride GIG Cymru (24 - 30 Awst), gan ddathlu amrywiaeth a chynhwysiant yng ngweithlu'r GIG a'n cymunedau.

Mae Wythnos Rhithwir Pride GIG Cymru yn rhedeg ochr yn ochr ag Wythnos Ar-lein Pride Cymru ac mae yna nifer o ddigwyddiadau y gallwch gymryd rhan ynddynt i gefnogi staff a chleifion LGBTQ + ledled Hywel Dda, boed hynny fel aelod o rwydwaith ENFYS neu i ddangos eich cefnogaeth fel cynghreiriad.

Beth am gynnal parti LGBTea ddydd Iau 27 Awst, am 11am a mewngofnodi i Teams i rannu eich dathliadau? Fe allech chi ymuno â noson gŵyl ffilm LGBT y noson honno, dan ofal gwobr IRIS. Efallai y byddai gennych ddiddordeb mewn gwrando ar y drafodaeth banel croestoriadoldeb ac amrywiaeth rhyw ar y dydd Mercher, neu ddod â thîm at ei gilydd i gymryd rhan yn y cwis LGBT nos Wener.

Y rhestr lawn o ddigwyddiadau ar gyfer mis Awst yw:

Meddai Anna Bird, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Partneriaethau Strategol, “Mae'r Bwrdd Iechyd yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall ers amser maith ac yn ddiweddar prynodd faneri enfys a llinynnau gwddf ar gyfer staff, gan atgyfnerthu ymrwymiad y bwrdd iechyd tuag at fod yn gyflogwr cynhwysol LGBT.

“Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda sefydliadau eraill ledled Cymru i gefnogi Pride Cymru, ac rydym yn gobeithio y bydd staff ein bwrdd iechyd ein hunain yn cymryd rhan yn y ddau ddigwyddiad cenedlaethol, ond hefyd yn ein rhwydwaith staff ein hunain sef ENFYS.”

Dywed rhwydwaith ENFYS, “Dyma #YourPride #EichPrideChi. Ymunwch i ddangos cefnogaeth i'r gymuned LGBTQ + a dathlu'r amrywiaeth o fewn ein gweithlu GIG. "

I gael mwy o wybodaeth am gadw'ch lle neu gymryd rhan yn unrhyw un o'r digwyddiadau hyn, e-bostiwch LGBT.historymonth@wales.nhs.uk

Os hoffech ddarganfod mwy am rwydwaith staff Hywel Dda ENFYS gallwch eu dilyn ar Twitter @HDdaLGBTQ