Neidio i'r prif gynnwy

Cymerwch ran mewn prosiect newydd i lywio cymorth iechyd meddwl a lles yng Nghymru ar ôl Covid-19

Mae'r ymchwilwyr sy'n gyfrifol am astudiaeth newydd fawr sy'n nodi sut y mae pobl Cymru wedi ymdopi â'r argyfwng coronafeirws yn apelio am wirfoddolwyr i rannu eu profiadau.

Mae'r astudiaeth, a arweinir gan yr Athro Nicola Gray o Brifysgol Abertawe, yn archwilio effaith coronafeirws ar iechyd meddwl a lles emosiynol poblogaeth Cymru.

Nawr, mae'r tîm yn chwilio am bobl i gofrestru i fod yn rhan o'r prosiect, a fydd yn helpu'r GIG yng Nghymru i ddeall y materion sy'n effeithio ar y boblogaeth yng Nghymru, yn ogystal â llywio gwasanaethau cymorth ar gyfer y dyfodol.

Lansiwyd Wales Well-being yr wythnos hon ac mae pob un o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru'n cydweithio ar y prosiect unigryw hwn.

Esboniodd yr Athro Gray y byddai'r arolwg lles cychwynnol yn aros ar agor am dair wythnos cyn iddo gael ei gau ac i'w ddata gael ei ddadansoddi. Byddai adborth ar ei ganlyniadau'n cael ei gyflwyno drwy gyhoeddiadau ac adroddiadau mewnol er mwyn helpu'r GIG a'i asiantaethau partner i ddysgu'r ffordd orau o gefnogi'r boblogaeth leol yn ystod y pandemig ac ar ôl hynny.

Yna byddai'r broses hon yn cael ei hailadrodd drwy arolygon eraill dros y misoedd i ddod, wrth i gymunedau yng Nghymru wynebu heriau coronafeirws a goblygiadau'r argyfwng i'r economi a chyflogaeth.

Meddai'r Athro Gray: “Mae hwn yn faes ymchwil pwysig iawn a fydd yn helpu'r GIG i olrhain anghenion lles y boblogaeth ar adegau gwahanol y pandemig.

“Rhoddir ein casgliadau o'r arolwg hwn, a'r rhai dilynol, i bob bwrdd iechyd pan fyddant ar gael. Yna gallant ddefnyddio'r casgliadau hyn – a'r data craidd sy'n sail iddynt – i weld ble y mae angen cymorth fwyaf a pha fath o gymorth y mae ei angen ar gyfer pa rannau o'r boblogaeth.

“Efallai y bydd yr anghenion a'r gofynion yn wahanol mewn rhannau gwahanol o Gymru ar adegau gwahanol y pandemig, felly mae'n bwysig iawn gallu teilwra'r ddarpariaeth hon er mwyn i bobl gael help ble a phryd y bydd ei angen arnynt.”

Mae'r grŵp ymchwil a arweinir gan yr Athro Gray, o Goleg Gwyddorau Dynol ac Iechyd y Brifysgol, hefyd yn cynnwys yr Athro Robert Snowden, o Brifysgol Caerdydd, a Dr Chris O'Connor, Cyfarwyddwr Adrannol Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Dywedodd yr Athro Gray fod y grŵp yn ddiolchgar am gymorth y darparwr arolygon electronig ar-lein Qualtrics, a'r cymorth mawr a roddwyd gan y gweithiwr marchnata proffesiynol ar ffyrlo Stuart Williams, a greodd wefan yr astudiaeth ac a luniodd ei hymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol, ynghyd â thri myfyriwr PhD o Brifysgol Abertawe a oedd wedi gweithio'n ddiflino ar y prosiect.

Ychwanegodd: “Bu'n galonogol gweld y ffordd y mae pawb yn cydweithio er mwyn ceisio helpu'r GIG i gefnogi pobl Cymru gyda'u hanghenion iechyd meddwl a lles yn ystod y pandemig hwn.

“Ar adegau fel hyn gallwch weld ein cymunedau'n uno er budd pawb, yn enwedig er budd y bobl hynny sy'n wynebu problemau iechyd meddwl neu sy'n teimlo'n unig neu'n ynysig yn gymdeithasol.

“Rwy'n teimlo'n falch iawn o fod yn Gymraes ar hyn o bryd ac o fod yn rhan o'r gymuned gref ym Mhrifysgol Abertawe.”

Ychwanegodd yr Athro Snowden: “Mae coronafeirws wedi newid ein bywydau'n ddramatig. Bydd wedi cael effaith niweidiol ar iechyd meddwl a lles llawer o bobl, ond efallai ei fod wedi helpu pobl eraill i ganolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig. Bydd ein harolwg yn ein galluogi i weld sut yr effeithiwyd ar bobl ac felly sut gallwn ymateb fel gwlad i'r gwirionedd newydd hwn.”

Er mwyn bod yn rhan o'r arolwg pwysig hwn a lleisio eich barn, a wnewch chi fynd i'r wefan i gofrestru neu i gael mwy o wybodaeth. Mae pob ymateb i'r arolwg yn ddienw. A wnewch chi hefyd roi gwybod i'ch teulu, eich ffrindiau a'ch rhwydweithiau am yr ymchwil bwysig hon.