Neidio i'r prif gynnwy

Cyfnod newydd i staff a chleifion Meddygfa Solfach

17 Gorffennaf 2023


Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, sydd wedi cymryd drosodd rheolaeth Meddygfa Solfach yn ddiweddar, wedi diolch i staff a’r gymuned leol am eu holl gefnogaeth a gwaith caled wrth i’r practis ddechrau ar gyfnod newydd.

Mae datblygiadau diweddar ym meddygfa Sir Benfro yn cynnwys penodi Meddyg Teulu parhaol ynghyd â rolau newydd fel Nyrs Arweiniol – ac mae cynlluniau pellach i fuddsoddi mewn hyfforddi a datblygu staff o fewn y tîm yn y dyfodol agos.

Mae’r feddygfa sydd wedi’i lleoli ym mhentref Solfach, yn gwasanaethu poblogaeth ar draws y Penrhyn ac fe’i cymerwyd drosodd gan y bwrdd iechyd yn dilyn ymarfer ymgysylltu cyhoeddus helaeth yn gynharach eleni. Gwnaed hyn ar ôl i'r feddygfa ddod â'i chontract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (GMS) i ben ym mis Mawrth 2023.

Mae Dr Angela Unversucht, sydd wedi bod yn darparu gwasanaeth locwm rheolaidd yn y practis ers mis Awst 2022, bellach wedi’i phenodi i rôl barhaol fel Meddyg Teulu Arweiniol Clinigol y practis.

Dywedodd Dr Unversucht: “Rwyf wrth fy modd fy mod wedi dod yn Feddyg Teulu Arweiniol Clinigol ym Meddygfa Solfach ar gyfer y bwrdd iechyd. Mae'n wasanaeth sy'n cael ei werthfawrogi'n fawr ar gyfer y cleifion cofrestredig ar draws y Penrhyn, ac rwy'n hapus i allu cefnogi ein cleifion a thîm y practis gan gynnwys meddygon locwm rheolaidd sy'n fy nghefnogi ym Meddygfa Solfach ac sydd i gyd yn Feddygon Teulu profiadol. Mae'r practis hefyd yn y broses o recriwtio mwy o feddygon parhaol.”

“Mae gwaith hefyd wedi bod ar y gweill i gryfhau tîm nyrsio’r practis,” parhaodd Dr Unversucht. “Rydym wedi penodi Nyrs Arweiniol a fydd yn dechrau yn ddiweddarach yr haf hwn, nyrs ychwanegol ar gyfer monitro clefydau cronig a Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd newydd. Byddwn hefyd yn gweithio gyda Chlwstwr Gogledd Sir Benfro ar brosiect ar gyfer ffyrdd iach o fyw ac atal clefydau.”

Mae gwasanaethau ym Meddygfa Solfach yn cynnwys ymgynghoriadau meddygon teulu wyneb yn wyneb a thros y ffôn sydd ar gael bob dydd. Mae cleifion yn gallu trefnu apwyntiadau nad ydynt yn rhai brys ymlaen llaw.

Dywedodd Dr Unversucht: “Bydd argaeledd apwyntiadau a chlinigau gyda thîm nyrsio’r practis yn cynyddu yn yr wythnosau nesaf wrth i’r staff newydd ddechrau yn eu swyddi ac edrychwn ymlaen at gael ein staffio’n llawn yn y tîm nyrsio.”


Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn parhau i weithio gyda Gweithgor y Penrhyn i drafod cynaliadwyedd gwasanaethau ar draws y Penrhyn yn y tymor hwy, a bwriedir cynnal cyfarfod arall yn yr wythnosau nesaf.

O dan y trefniadau newydd, nid oes gan Feddygfa Solfach fferyllfa ar gyfer meddyginiaeth bellach. Mae mwyafrif y cleifion yn defnyddio Fferyllfa Gymunedol Well yn Nhyddewi, sydd wedi gweld cynnydd sylweddol yn y modd y caiff meddyginiaethau eu dosbarthu ac sydd wedi ehangu’r ystod o wasanaethau clinigol y mae’n eu cynnig. Mae gwaith i wella'r adeilad yn cael ei wneud yn ystod yr wythnosau nesaf.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Jill Paterson, fod y bwrdd iechyd wedi bod yn gweithio'n agos gyda chleifion, y gymuned leol yn Solfach ac asiantaethau partner eraill.

“Rydym wedi bod yn falch iawn gyda’r canlyniad hyd yn hyn,” meddai Ms Paterson. “Hoffwn ddiolch i staff y feddygfa am weithio mor galed trwy gyfnod ansicr i drosglwyddo’n esmwyth ac i gleifion am eu cefnogaeth barhaus i dîm y practis.”

Ceir mwy o fanylion am y gwasanaethau a ddarperir ym Meddygfa Solfach ar wefan y practis Solva Surgery (gpsurgery.net) (agor mewn dolen newydd)