Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wrth ei fodd o fod wedi cyflawni Gwobr Lefel 1 (Gweithredol) Hyder Gofalwyr gan Gyflogwyr Gofalwyr, mewn cydnabyddiaeth o’r gwaith a wnaed i adeiladu gweithle cefnogol i staff sy’n jyglo gwaith a dyletswyddau gofalu.
Mae nifer o aelodau staff y bwrdd iechyd yn gofalu am berthynas, partner neu ffrind sy’n hŷn, yn anabl neu’n sâl iawn, a bydd y gydnabyddiaeth hon yn helpu’r staff hynny i nodi eu hunain yn ofalwyr ac i gael cefnogaeth ymarferol yn y gweithle i’w cynorthwyo i gyflawni eu cyfrifoldebau gwaith a gofalu.
Meddai Judith Hardisty, Is-gadeirydd a Phencamper Gofalwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae’r bwrdd iechyd wedi ymrwymo i adeiladu gweithlu cefnogol a chynhwysol i staff sy’n ofalwyr, neu a fydd yn ofalwyr, ac rydym ar ben ein digon yn derbyn y wobr hon.
“Gydag un ym mhob naw bellach yn jyglo gwaith â gofalu, a gyda phoblogaeth sy’n heneiddio, mae gofalwyr yn realiti cynyddol yn ein gweithlu.”
Ers mis Ionawr 2019, mae’r bwrdd iechyd wedi bod yn aelod ar y cyd â’i dri phartner Awdurdod Lleol yn y cynllun Cyflogwyr Gofalwyr. Mae’r cynllun yn wasanaeth aelodaeth cyflogwyr gan Gofalwyr Cymru a Carers UK ac mae’n gynllun achredu meincnod Hyder Gofalwyr.
Ychwanegodd Judith: “Mae ein gwaith i gefnogi gofalwyr di-dâl yn flaenoriaeth barhaus – o ran cefnogi ein staff sy’n jyglo cyfrifoldebau yn y gwaith a gofalu gartref ac o ran y gofalwyr di-dâl yn y gymuned ehangach.
“Trwy ein gwaith gyda’n partneriaid ar Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol y Gorllewin, rydym yn datblygu Strategaeth Gofalwyr Rhanbarthol ac yn annog gofalwyr, perthnasau a staff i ddweud eu dweud trwy lenwi’r arolwg.”
Dyma’r arolwg, ac mae’n cau ar 29 Mai 2020 (heddiw): https://carmarthenshire.researchfeedback.net/s.asp?k=158825722283
Byddwn hefyd yn codi ymwybyddiaeth ac yn cydnabod gofalwyr di-dâl yn ystod Wythnos Gofalwyr o’r 8fed i’r 14eg o Fehefin 2020.