Neidio i'r prif gynnwy

Crimestoppers yn gofyn i breswylwyr i fod ar eu gwyliadwriaeth am droseddu cyfundrefnol ac i godi eu llais i atal camfanteisio

Bocs glas gyda geiriau datganiad i

Heddiw, mae elusen Crimestoppers yn lansio ymgyrch ffres ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys i amlygu troseddu cyfundrefnol, ac mae'n gofyn am eich help chi trwy adrodd unrhyw wybodaeth am weithgarwch troseddol drwgdybiedig mewn ffordd ddienw.

Er bod Dyfed-Powys yn un o'r mannau mwyaf diogel i fyw yn y DU, mae'r ymgyrch ddigidol newydd yn amlygu'r ffaith bod troseddwyr yn ceisio ehangu eu gweithgareddau i'w siroedd.  Boed hynny'n ymdrechion i sefydlu rhwydweithiau delio cyffuriau 'Llinellau Sirol' neu sefydlu ffatrïoedd canabis, gall y gweithgareddau hyn, y maent yn aml yn gysylltiedig gyda grwpiau troseddu cyfundrefnol, gamfanteisio ar y rhai agored i niwed a pheri niwed i gymunedau a busnesau cyfreithlon.

Fis diwethaf, rhoddwyd dedfryd o garchar i ddau ar bymtheg o bobl yn dilyn gweithrediad llwyddiannus a dargedodd ddelwyr cyffuriau yng Nghanolbarth Cymru, lle yr atafaelwyd heroin a chrac cocên a oedd yn werth dros ddeg mil o bunnoedd.

Mae Crimestoppers yn gweithio gydag amrediad o bartneriaid lleol, sy'n ffurfio ‘Project Diogel’ gyda'i gilydd, a'u nod yw helpu i atal troseddau cyfundrefnol a throseddau treisgar difrifol trwy godi ymwybyddiaeth ymhlith cymunedau a'u hannog i fod yn wyliadwrus ac i godi eu llais ynghylch pryderon am droseddu.  Mae gwybodaeth gymunedol gan breswylwyr a busnesau, boed hynny i'r awdurdodau neu'n ddienw trwy Crimestoppers, yn hanfodol er mwyn rhoi stop ar droseddwyr.

Dywedodd Ditectif Uwch-arolygydd Estelle Hopkin-Davies, Cadeirydd Bwrdd Troseddu Cyfundrefnol a Thrais Difrifol Dyfed-Powys, a elwir ‘Project Diogel’:

“Er bod Dyfed-Powys yn un o'r mannau mwyaf diogel i fyw yn y DU, nid ydym yn ddi-hid am gyrhaeddiad penderfynol ac eang troseddu cyfundrefnol ar draws cefn gwlad Cymru.  Rydym yn cefnogi ymgyrch Crimestoppers er mwyn helpu i gadw Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys yn ddiogel trwy atal troseddu cyfundrefnol difrifol.

“Trwy gyfrwng Project Diogel, rydym yn gweithio gyda'n partneriaid i wneud Dyfed-Powys yn fan anghyfeillgar ar gyfer troseddu cyfundrefnol, ac er mwyn diogelu ein cymunedau.  Rydym yn dymuno rhoi stop ar ddelio cyffuriau a throseddau a ysgogir ganddo, megis cynhyrchu cyffuriau, caethwasiaeth fodern a chamfanteisio, byrgleriaeth a dwyn, arfau a thrais.  Gall eich gwybodaeth chi helpu i atal y camfanteisio a'r niwed y mae'r troseddwyr hyn yn ei wneud i'n preswylwyr a'n cymunedau.  Apeliwn arnoch i adnabod pan fydd rhywbeth o'i le yn eich cymunedau ac i ddweud wrthym amdano.  Os bydd yn teimlo'n anghywir, mae'n debygol ei fod yn rhywbeth anghywir.  Nid oes yn rhaid i chi fod yn siŵr, dim ond eich bod yn pryderu.”

Dywedodd Ella Rabaiotti, Rheolwr Crimestoppers yng Nghymru:

“Mae Dyfed-Powys yn lle prydferth i fyw a gweithio, fodd bynnag, mae rhai yn dymuno difetha hyn.  Rydym yn gweithio gydag amrediad o sefydliadau ar draws y rhanbarth fel rhan o 'Brosiect Diogel' – dull partneriaeth er mwyn atal a stopio trais difrifol a throseddu cyfundrefnol.  Fodd bynnag, ni allwn wneud hyn heb help preswylwyr a busnesau;  mae gan bawb rôl i'w gyflawni wrth atal troseddu.

Yn arbennig, rydym yn annog landlordiaid eiddo, asiantau gosod a'r rhai sy'n rhedeg gwestai a llety i westeion i fod ar eu gwyliadwriaeth am droseddwyr sy'n defnyddio eu safleoedd.  Gallai'r arwyddion i gadw golwg amdanynt gynnwys:

  • Cynigion i dalu ymlaen llaw gan ddefnyddio arian parod
  • Maent yn ymddangos yn gyfoethog ond yn dymuno rhentu eiddo rhad
  • Ni allant ddarparu geirda cyflogaeth na chan landlord
  • Mae'n well ganddynt dalu eu rhent mewn arian parod heb gyfiawnhad da dros hynny
  • Maent yn eich atal rhag archwilio eich eiddo pan roddir rhybudd rhesymol iddynt

Os bydd gennych chi unrhyw wybodaeth neu os byddwch yn amau bod troseddu cyfundrefnol yn digwydd, a fyddech gystal â rhoi gwybod i'n helusen.  Gallwch siarad â'n Canolfan Gyswllt yn ddiogel trwy ffonio rhif rhadffôn 0800 555 111 neu ddefnyddio ein ffurflen ar-lein na ellir ei holrhain.  Byddwch yn aros yn hollol ddienw.  Bob tro.  Ni fyddwn fyth yn gofyn am eich enw ac ni fydd eich galwad ffôn neu'ch adroddiad ar-lein fyth yn cael ei olrhain”

Gellir gweld rhagor o fanylion am yr ymgyrch hon yma.

GORFFEN

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Swyddfa'r Wasg Crimestoppers ar 0208 835 3700 neu anfonwch e-bost at press.office@crimestoppers-uk.org