Neidio i'r prif gynnwy

Cleifion i elwa o ofod ward awyr agored newydd

21 Mawrth 2024

Gall cleifion yn Ward 10 Ysbyty Llwynhelyg bellach elwa ar ardal awyr agored newydd, sydd wedi’i chynllunio i wella eu hiechyd a’u llesiant tra’n aros yn yr ysbyty.

Mae’r teras newydd wedi’i gwneud yn bosibl diolch i Apêl Baner Ward 10 Elly, pawb sydd wedi rhoi’n hael Apêl, a Chronfa Gwasanaethau Canser Sir Benfro Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Mae’r ardal wedi’i chreu a'i dylunio gyda llesiant mewn golwg. Mae'n le croesawgar yn enwedig i gleifion gael rhywfaint o awyr iach a phrofi buddion yr awyr agored a hynny gam i ffwrdd o'r ward. Bydd staff y ward hefyd yn elwa o allu cymryd seibiannau y tu allan. Mae'r teras newydd yn cynnwys ardal eistedd a detholiad o ddelweddau ffotograffig wedi'u gosod gan Drew Buckley, ffotograffydd tirwedd a bywyd gwyllt proffesiynol arobryn sy'n byw yn Sir Benfro. Mae'r delweddau ar thema natur wedi'u dewis gan dîm Ward 10 i greu gofod tawel a llonydd i wella profiad y claf.

Dywedodd Dr Andrew Burns, Cyfarwyddwr Ysbyty Llwynhelyg: “Rwyf wrth fy modd o weld y cyfleuster hwn ar agor i gleifion a staff. Mae'n ychwanegiad gwych i'r ward, a bydd cleifion a staff yn elwa ohono.

“Diolch i bawb fu’n rhan o’r prosiect gwych hwn, yn enwedig i Apêl Baner Ward 10 Elly, yr holl ymdrechion codi arian anhygoel ac i’n cymuned yn Sir Benfro am eu cyfraniad, cefnogaeth a haelioni.” 

Ychwanegodd Lyn Neville, tad Elly: “Mae pob un ohonom sy’n ymwneud â Baner Elly yn falch iawn bod teras to Ward 10 bellach ar agor. Rydym mor hapus bod gwaith codi arian Elly wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i lesiant cleifion a staff. Bydd y teras yn galluogi cleifion ar Ward 10, gan gynnwys y rhai sy’n gaeth i’r gwely, i fwynhau rhywfaint o awyr iach yn yr awyr agored, sydd mor dda i iechyd meddwl claf tra yn yr ysbyty. Wrth i brosiect Ward 10 ddod i ben, hoffem ddiolch i bawb a gefnogodd Apêl Elly ac sydd ymgyrchu dros y gwasanaethau canser gorau i bobl Sir Benfro”.

Mae’r prosiect teras awyr agored yn cau pen y mwdwl ar y gwelliannau a’r gwaith adnewyddu ar Ward 10, wnaeth ailagor ym mis Ebrill 2020 i ddarparu cyfleusterau modern ac amgylchedd gwell i ofalu am gleifion. Mae’r bwrdd iechyd wedi mynd i’r afael â’r materion iechyd, diogelwch a risg uniongyrchol sy’n gysylltiedig â nifer o blanciau concrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth (RAAC) diffygiol a disgwylir iddo ailagor Ward 10 i gleifion ddechrau mis Ebrill 2024.

Mae cynllun datblygu’r ward, a ariennir yn bennaf gan Lywodraeth Cymru, hefyd wedi elwa ar fwy na £500,000 o roddion elusennol gan Gronfa Gwasanaethau Canser Sir Benfro y bwrdd iechyd, Apêl Baner Ward 10 Elly, ynghyd â rhoddion sylweddol a dderbyniwyd hefyd gan y diweddar Luke Harding a’i deulu.

Diwedd

DIWEDD