Mae nifer o gleifion yn ward iechyd meddwl oedolion Santes Non, sy’n rhan o Ysbytai Dydd Bro Cerwyn / Sant Brynach yn Hwlffordd, Sir Benfro, wedi cael eu hynysu ar ôl profi’n bositif am COVID-19.
Mae pob claf yn sefydlog ac yn derbyn gofal ar ei ben ei hun ac yn unol â chanllawiau atal heintiau, gyda defnydd priodol o Offer Amddiffynnol Personol a phellter cymdeithasol COVID-19.
Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn parhau i asesu a darparu gofal iechyd meddwl yn y gymuned, a gwneud trefniadau amgen ar gyfer unrhyw un sydd angen gofal ysbyty. Mae cynlluniau wrth gefn cadarn ar waith i sicrhau bod y gofal gorau posibl yn cael ei ddarparu i gleifion pan fydd ei angen arnynt.
Os oes gennych unrhyw symptomau o COVID-19 (peswch parhaus newydd, tymheredd uchel, neu golled neu newid i ymdeimlad o arogl neu flas), arhoswch gartref ac archebwch brawf trwy borth y DU.