Neidio i'r prif gynnwy

Cau Wardiau Dros Dro yn Ysbyty Glangwili

04 Medi 2026

Gallwn gadarnhau bod dwy ward yn Ysbyty Glangwili ar gau ar hyn o bryd i dderbyniadau ac ymwelwyr oherwydd achosion ar wahân o gyflyrau heintus.

Mae Ward Steffan Glangwili yn rheoli achos o ffliw ac mae Ward Cadog yn rheoli achos o sgabies.

Mae iechyd, diogelwch a lles ein cleifion, ymwelwyr a staff yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni.

Rydym yn dilyn canllawiau cenedlaethol ac wedi cymryd camau ychwanegol i leihau y risg o ledaennu'r haint. Mae rhain yn cynnwys glanhau ychwanegol, ynysu cleifion pan fo angen, monitro'r sefyllfa yn agos, a darparu gofal a thriniaeth i gleifion sydd wedi cael eu effeithio.

Mae ein Tîm Atal a Rheoli Heintiau yn gweithio'n agos gyda thimau wardiau a rheolwyr yr ysbyty i leihau unrhyw effaith ar wasanaethau ac i atal lledaeniad pellach gydag adolygiadau wedi'u cynllunio ar gyfer yr wythnos nesaf i asesu os gall wardiau ail-agor

 Gwybodaeth Bwysig i Ymwelwyr

• Peidiwch ag ymweld os ydych chi'n teimlo'n sâl, yn enwedig os oes gennych symptomau ffliw fel twymyn, peswch, dolur gwddf neu boenau yn y cyhyrau.

• Peidiwch a mynychu ein lleoliadau ysbyty os ydych chi wedi bod mewn cysylltiad ag achos hysbys o sgabies yn y gymuned

• Dilynwch unrhyw gyfyngiadau ymwelwyr penodol i'r ward a allai fod ar waith.

• Glanhewch eich dwylo gan ddefnyddio sebon a dŵr neu gel dwylo alcohol wrth fynd i mewn ac allan o ardaloedd clinigol.

• Siaradwch â staff y ward cyn ymweld os oes gennych unrhyw bryderon.

Byddwn yn monitro'r sefyllfa yn agos a gobeithio gallu darparu diweddariad yn gynnar yr wythnos nesaf.

Am fwy o wybodaeth a chyngor pellach am Sgabies ewch i: https://biphdd.gig.cymru/newyddion/datganiadau-ir-wasg/y-clefyd-crafu-yr-hyn-sydd-angen-i-chi-ei-wybod/

Mae brechlyn y ffliw yn un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o leihau'r risg o salwch difrifol oherwydd y ffliw ac o helpu i amddiffyn y rhai sydd fwyaf agored i niwed rhag haint. I gael rhagor o wybodaeth am ble i gael brechlyn yn eich cymuned, ewch i wefan y Bwrdd Iechyd yn: https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/imiwneiddio-a-brechu/neu ffoniwch 0300 303 8322 a dewis opsiwn 1, neu anfonwch e-bost at ask.hdd@wales.nhs.uk.