Diweddarwyd 30 Medi 2026 (Cyhoeddwyd gyntaf ar 14 Gorffennaf 2026)
Mae'r clefyd crafu yn gyflwr croen cyffredin a achosir gan widdonyn microsgopig, a gall effeithio ar bobl o bob oed. Er ei fod yn heintus iawn drwy gyswllt croen-i-groen hirbarhaol, nid yw fel arfer yn gysylltiedig â salwch difrifol a gellir ei drin yn effeithiol. Mae'n bwysig nodi nad oes cysylltiad rhwng y clefyd crafu a hylendid personol gwael, a gall effeithio ar unrhyw un.
Mae nifer o achosion o’r clefyd crafu yn cael eu rheoli ar hyn o bryd mewn lleoliadau gofal iechyd a chymunedol ledled ardal Hywel Dda. Mae'r risg i'r cyhoedd yn gyffredinol yn parhau i fod yn isel. Byddwn yn cysylltu ag unigolion y gallai hyn effeithio ar eu hapwyntiadau gofal a drefnwyd, cyn gynted â phosib.
Mae mesurau priodol ar waith i atal a rheoli heintiau, ac mae unigolion yr effeithir arnynt a'u cysylltiadau agos yn cael eu cefnogi â thriniaeth a chyngor.
Hoffem achub ar y cyfle hwn i atgoffa staff, cleifion ac aelodau o'r cyhoedd am arwyddion a symptomau'r clefyd crafu, a phwysigrwydd cwblhau'r driniaeth yn gywir er mwyn atal yr haint rhag dychwelyd ac atal ei ledaenu ymhellach.
Arwyddion a symptomau’r clefyd crafu
Gall symptomau gynnwys:
Mae brech y clefyd crafu fel arfer yn ymledu dros y corff cyfan, ac eithrio'r pen a'r gwddf. Yn aml, mae'n effeithio ar y croen rhwng y bysedd, o amgylch yr arddyrnau, o dan y ceseiliau, ac o amgylch y canol, yr arffed a'r pen-ôl.
Fodd bynnag, gall pobl hŷn, pobl â dementia a phlant ifanc ddatblygu brech annodweddiadol ar eu pen, gwddf, cledrau a gwaelod eu traed.
Atal ail-heintio
Gellir trin clefyd crafu yn llwyddiannus gyda meddyginiaeth sydd ar gael trwy weithwyr gofal iechyd proffesiynol a fferyllfeydd. Mae triniaeth lwyddiannus yn dibynnu ar bawb a allai fod wedi dod i gysylltiad â'r clefyd yn cael eu trin ar yr un pryd.
Os yw’r clefyd crafu wedi'i ddiagnosio, dylai pob aelod o'r cartref a chysylltiadau agos dderbyn triniaeth ar yr un pryd, hyd yn oed os nad oes ganddynt symptomau. Fel arfer, mae triniaeth yn cynnwys dau gymhwysiad o feddyginiaeth, saith diwrnod ar wahân.
Er mwyn helpu i atal ail-heintio:
Mae hefyd yn bwysig cofio y gall cosi barhau am sawl wythnos ar ôl triniaeth lwyddiannus. Nid yw hyn o reidrwydd yn golygu bod y driniaeth wedi bod yn aflwyddiannus.
Ceisio cyngor
Os ydych chi'n meddwl efallai bod gennych y clefyd crafu neu os yw'r symptomau'n parhau ar ôl triniaeth, ceisiwch gyngor gan eich meddyg teulu, fferyllydd cymunedol neu GIG 111 Cymru.
Mae'r clefyd crafu fel arfer yn lledaenu drwy gyswllt croen-i-groen hirbarhaol. Er ei bod yn bosibl iddo ledaenu drwy ddillad, dillad gwely a thywelion, mae hyn yn llawer llai cyffredin.
Trwy adnabod y symptomau'n gynnar a sicrhau bod pawb a allai fod wedi'u heffeithio yn cael eu trin gyda'i gilydd, gallwn helpu i atal yr haint rhag dychwelyd a lleihau lledaeniad y crafu yn ein cymunedau.