Neidio i'r prif gynnwy

Imiwneiddio a brechu

Mae brechu yn achub bywydau. Brechu yw'r peth pwysicaf y gallwn ei wneud i amddiffyn ein hunain a'n plant rhag afiechyd.

Brechu, neu imiwneiddio, yw'r broses o roi brechlyn i rywun a dod yn imiwn i'r afiechyd o ganlyniad i'r brechlyn hwnnw. Mae'n defnyddio mecanwaith amddiffyn naturiol y corff i adeiladu ymwrthedd i heintiau penodol, e.e. peswch neu'r frech goch.

Fel rheol rhoddir brechlynnau trwy bigiad neu ddiferion trwy’r geg. Mae brechu arferol yn rhad ac am ddim; fodd bynnag, os ydych chi'n teithio i wlad lle mae brechiadau ychwanegol yn cael eu hargymell, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: