Mae dau o'r ysbytai maes ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cael canmoliaeth uchel gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru mewn adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar.
Ymwelodd tîm â'r ddau safle capasiti ychwanegol - Ysbyty Enfys Carreg Las yn Bluestone yn Sir Benfro, ac Ysbyty Enfys Selwyn Samuel yn Llanelli - a hwn oedd y tro cyntaf i AGIC archwilio lleoliadau o'r fath.
Archwiliodd yr arolygiad sut mae’r risgiau i iechyd, diogelwch a llesiant cleifion yn cael eu rheoli yn y safleoedd dros dro hyn. Canfu arolygwyr fod prosesau priodol ar waith i ddarparu gofal diogel ac effeithiol i gleifion.
Nododd crynodeb yr adroddiad: ‘Gwelsom dystiolaeth o gynllunio helaeth gan y gwasanaeth wrth baratoi ar gyfer darparu gofal diogel ac effeithiol i gleifion o fewn amgylcheddau unigryw. Gwelsom dystiolaeth o arweinyddiaeth a staff da a oedd yn ymgysylltu ac yn angerddol yn eu rolau. ’
Dywedodd Dr Meinir Jones, Cyfarwyddwr Meddygol Cyswllt Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac Arweinydd Clinigol ar gyfer yr Ysbytai maes: “Mae hyn yn newyddion rhagorol ac yn bwysicach fyth, yn dyst i waith anhygoel ein tîm. Rwy'n falch iawn o'r hyn a gyflawnwyd ar y ddau safle, sy'n derbyn cleifion i helpu i leddfu pwysau ar yr ysbytai acíwt. Mae'r ysbytai maes yn rhoi'r hyblygrwydd inni symud cleifion allan o ysbytai ar ôl iddynt gael eu hasesu fel rhai nad oes angen mewnbwn meddygol arnynt mwyach, ond mae angen rhywfaint o ofal arnynt o hyd cyn cael eu rhyddhau adref neu i gyfleuster gofal cymunedol. "
Dywedodd Prif Weithredwr Dros Dro AGIC, Alun Jones: “Yn ystod y pandemig COVID-19 rydym wedi addasu ein dull o arolygu i gydnabod y pwysau y mae lleoliadau gofal iechyd yn gweithio oddi tano a'r baich gweinyddol y gall arolygu ei roi ar leoliadau sy'n cael eu arolygu. Rwy'n falch ein bod wedi gallu archwilio dau ysbyty maes yn ddiogel cyn cyfnod y gaeaf a rhoi myfyrdodau yn gyflym ar yr hyn a ganfuom i'r rhai sy'n rheoli'r lleoliadau hyn. "
Mae'r adroddiad arolygu ar gyfer y ddau ysbyty maes ar gael yma