Neidio i'r prif gynnwy

Canmol Prentisiaid Gofal Iechyd am eu cymorth gyda profi

Mae prentisiaid gofal iechyd lleol wedi cael eu canmol am eu rôl ganolog wrth gefnogi rhaglen brofi COVID-19 ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Fel rhan o'u rhaglen hyfforddi dan oruchwyliaeth, gosodwyd 12 o'r prentisiaid yn yr unedau profi COVID-19 yn Aberystwyth, Aberteifi, Caerfyrddin, Hwlffordd a Llanelli a gosodwyd dau yn y Ganolfan Reoli Covid-19 leol. Gan weithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ers mis Medi 2019, maent wedi cefnogi'r safleoedd profi a'r lleoliadau cartref dros y chwe mis diwethaf, gan gynnwys cefnogi'r Tîm Gofal Tymor Hir a'r Tîm Atal a Rheoli Heintiau mewn profion cartrefi gofal.

Dywedodd Glenna Jones, Pennaeth Profi Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffwn ddiolch yn bersonol i’r holl brentisiaid am ein cefnogi. Maent wedi gweithio'n ddiflino gyda brwdfrydedd a phroffesiynoldeb, gan gefnogi'r bwrdd iechyd i ddarparu profion ar draws ein cymunedau.

“Dylent fod yn wirioneddol falch o’r gwaith hwn ac rwy’n eu llongyfarch i gyd ar gyflawni eu cymwyseddau prentisiaeth yn llwyddiannus. Bydd y profiad hwn yn amhrisiadwy wrth iddynt barhau i adeiladu eu gyrfaoedd yn y GIG yn y dyfodol.”

Dywedodd Jasmine Curtis, Prentis Gofal Iechyd o Glunderwen yn Sir Benfro: “Rwyf wedi caru fy amser yn unedau profi COVID-19. Rwyf wedi gweithio gyda'r staff mwyaf anhygoel o adrannau gwahanol ac wedi dysgu cymaint am rolau eraill yn y bwrdd iechyd.

“Rwyf wedi dysgu cymaint o sgiliau newydd yr wyf eisoes wedi gallu eu defnyddio ar y wardiau. Roedd y gefnogaeth gan yr holl staff yn anhygoel, roeddent mor barod i helpu. Mae wedi bod yn hyfryd gweithio gyda phrentisiaid eraill o siroedd eraill a rhannu straeon a phrofiadau gyda nhw.”

Dywedodd Lisa Gostling, Cyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol: “Mae ein holl brentisiaid yn darparu cyfraniad anhygoel o bwysig i ofal iechyd yn Hywel Dda yn enwedig yn ystod yr amser heriol hwn. Mae pob un ohonynt wedi ein helpu yn ein hymateb parhaus i'r pandemig, gan helpu i amddiffyn ein cymunedau lleol ac am hynny rydym yn ddiolchgar iawn. Rydym yn dymuno pob lwc iddynt wrth symud ymlaen yn eu rhaglen hyfforddi.”

Dylai unrhyw un sy'n profi symptomau COVID-19 (peswch parhaus newydd, tymheredd uchel, newid neu golli blas neu arogl) hunan ynysu ac archebu prawf ar-lein yn www.gov.wales/coronavirus neu trwy ffonio 119 (rhwng 7 am-11pm). Gall pobl ag anawsterau clyw neu leferydd ffonio 18001 119.