21 Ionawr 2022
Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn trafod ac yn cytuno ar gyflwyno cynllun uchelgeisiol i wella canlyniadau iechyd a llesiant ein poblogaeth.
Bydd Achos Busnes Rhaglen ar gyfer Llywodraeth Cymru yn cael ei drafod yng nghyfarfod y Bwrdd Iechyd am 9.30am ddydd Iau 27 Ionawr 2022, a bydd ar gael i’w wylio’n fyw yma (agor mewn dolen newydd).
Mae’n garreg filltir yn nhaith y Bwrdd i gyflawni ei strategaeth hirdymor a gwelliant yn iechyd y boblogaeth – Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach (agor mewn dolen newydd), yn dilyn ymgysylltu ac ymgynghori helaeth yn 2018.
Dyma hefyd y modd y bydd y Bwrdd yn mynd i’r afael â heriau hirsefydlog, gan gynnwys gwasanaethau bregus, heriau gweithlu ac ariannol anghynaliadwy, ac ystâd ysbyty sy’n heneiddio (rhai o adeiladau ysbyty hynaf Cymru).
Mae’r Achos Busnes Rhaglen yn cynnig gobaith yn dilyn y pandemig, y gall iechyd a gofal symud o fod yn wasanaeth salwch gyda ffocws ar adeiladau ysbyty ac ymyrraeth, at fod yn wasanaeth sy’n gweithio ar draws ffiniau i atal afiechyd neu ddirywiad mewn iechyd, gan ddarparu cymorth yn gynt, ac yn nes at adref lle bynnag y bo modd.
Dywedodd Steve Moore, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Dyma’r cam cyntaf ond pwysig o gynhyrchu achos busnes i Lywodraeth Cymru i geisio sicrhau buddsoddiad ar raddfa nas gwelwyd erioed o’r blaen yn yr ardal hon o Gymru.
“Mae pandemig COVID-19 wedi atgyfnerthu’r angen am newid, a chredwn mai dyma ein cyfle unwaith mewn oes i wella canlyniadau iechyd a llesiant ein poblogaeth a chreu canolbarth a gorllewin Cymru iachach a gobaith ar gyfer y dyfodol.”
Yr Achos Busnes Rhaglen yw’r cam cyntaf o gynllunio busnes i sicrhau cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru er mwyn symud ymlaen i gynllunio, dadansoddi ac argymhellion llawer mwy manwl ar y manylion ar sut i symud ymlaen.
Wedi’i gynnwys ar hyn o bryd mae prosbectws o gyfleoedd buddsoddi, y gellid eu gwireddu dros y degawd nesaf, i wella’n sylfaenol y ffordd y darperir gwasanaethau iechyd a gofal, yn ogystal â’r amgylcheddau y cânt eu darparu ohonynt. Os caiff ei gefnogi, gallai’r buddsoddiad fod yn fwy na £1.3biliwn, sy’n lefel na welwyd erioed o’r blaen yng ngorllewin Cymru. Mae hwn yn gais sylweddol ond mae'n adlewyrchu anferthedd y newid a'r gwelliant a geisir er budd ein cymunedau.
Mae cynigion yn y cynllun yn cynnwys;
Bydd newid y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu a gwella'r amgylcheddau yn gwella canlyniadau cleifion, ansawdd gofal a phrofiad y claf. Drwy ddwyn rhai gwasanaethau ynghyd ar lai o safleoedd, megis trawma, llawfeddygaeth frys ac adrannau damweiniau ac achosion brys, bydd y bwrdd iechyd hefyd yn gallu gwella safonau.
Er mwyn arfarnu’r holl opsiynau’n briodol, fel sy’n ofynnol gan broses achos busnes Llywodraeth Cymru, bydd y cam nesaf yn edrych yn fanylach ar sut yr ydym yn addasu ysbytai Glangwili a Llwynhelyg at ddibenion gwahanol. Byddai hyn yn cynnwys opsiynau i ddefnyddio’r adeiladau a’r lleoliadau presennol, ond hefyd y potensial i’w hail-adeiladu ar safle.
Agwedd sylfaenol arall ar yr Achos Busnes Rhaglen yw ffocws ar ddarparu gwell amodau a chyfleoedd i staff, er mwyn cadw a denu’r gweithlu sydd ei angen. Un o heriau mwyaf y bwrdd fu prinder gweithlu a gorddibyniaeth ar staff dros dro a chost hynny.
Mae’r bwrdd iechyd hefyd am sicrhau’r budd cymdeithasol mwyaf posibl o’r ffordd y mae’n gweithio ac mae’n rhagweld y byddai’r buddsoddiad arfaethedig yn dod â manteision economaidd sylweddol i’n cymunedau. Er enghraifft, y strategaeth caffael (prynu) yw i gynyddu cyfran y gwariant gyda chyflenwyr lleol neu ddarparwyr sy'n cefnogi cyfleoedd gwaith i ddinasyddion mwy agored i niwed neu gyfleoedd cyflogaeth, hyfforddiant a phrentisiaethau yn lleol.
Mae’r Achos Busnes Rhaglen yn cydnabod yr angen i greu seilwaith digidol a fydd yn galluogi’r bwrdd iechyd i gysylltu â chleifion a defnyddwyr gwasanaeth ym mhob lleoliad, gan greu system iechyd ‘heb furiau’. Byddai hyn yn cynnwys arloesiadau, megis nwyddau gwisgadwy, cofnodion iechyd electronig mwy datblygedig, a mwy o ddefnydd o dechnoleg i symleiddio prosesau gan gynnwys derbyn a rhyddhau cleifion.
Drwy’r trawsnewid hwn y mae’r bwrdd iechyd yn credu y gall ei adeiladau a’i seilwaith gefnogi strategaeth datgarboneiddio GIG Cymru.
Ychwanegodd Mr Moore: “Rwy’n deall cryfder y teimlad ac angerdd ein staff a’r cyhoedd tuag at ein Gwasanaeth Iechyd ac rydym am barhau i harneisio hynny a pharhau i ymgysylltu â’n cymunedau wrth i ni adeiladu mwy o fanylion o amgylch y cynlluniau hyn.
“Er mwyn galluogi symudiad cenhedlaeth i system lesol, mae angen y pecyn cyfan o ataliaeth ac ymyrraeth gynnar, ym mhob cyfnod o fywyd. Mae hynny’n cynnwys asgwrn cefn gwasanaethau sylfaenol a chymunedol cryf a chynaliadwy; darpariaeth briodol o adsefydlu a therapïau; gwasanaethau ysbyty acíwt sy'n gallu darparu'r safon o ddarpariaeth y mae ein cymunedau yn ei haeddu; a gweithlu a gefnogir.”
Yn diyn cymeradwyaeth ffurfiol gan Lywodraeth Cymru, bydd y bwrdd Iechyd wedyn yn symud i gam nesaf yr achosion busnes amlinellol a therfynol unigol ar gyfer elfennau o’r rhaglen. Bydd angen ymgysylltu’n rheolaidd, ac o bosibl ymgynghori ar rannau o’r rhaglen gyda chleifion, y cyhoedd, staff a phartneriaid.
Yn y cyfamser, bydd y bwrdd iechyd yn parhau â’r broses o ddewis safle a pharatoi ar gyfer caffael tir ar gyfer yr ysbyty gofal brys a gofal wedi’i gynllunio newydd. Rydym yn gweithio gyda'r Sefydliad Ymgynghori i sicrhau bod y cyhoedd yn cael eu cynnwys yn y meini prawf a'r sgorio terfynol ar opsiynau. Byddwn yn rhannu cynnydd ar hyn wrth i ragor o wybodaeth ddod i law. Y gobaith yw y bydd safle a ffefrir yn cael ei nodi yn yr haf.