Neidio i'r prif gynnwy

Cadw'n Iach yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol

29 Gorffennaf 2022

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda eisiau cynnig cymaint o help a chyngor â phosibl i chi ar gyfer gofalu am eich iechyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron eleni.

O gael eich pwysedd gwaed wedi’i wirio, i arddangosiadau ar lanhau dannedd, neu le i fwydo’ch babi ar y fron, dewch i ymweld â stondin y bwrdd iechyd ar y maes.

Bydd gwahanol weithwyr gofal iechyd proffesiynol o Ofal Sylfaenol a Chymunedol yn bresennol drwy gydol yr wythnos i chi gael cyngor neu gael eich cyfeirio a thaflenni ar sut i gael mynediad at wahanol wasanaethau ar draws ein bwrdd iechyd.

Ddydd Sadwrn, 30 Gorffennaf a dydd Gwener, 5 Awst, bydd timau Fferylliaeth a Rheoli Meddyginiaethau ar ein stondin, gyda’r fferyllydd lleol Richard Evans wrth law.

Dywedodd Richard Evans, Fferyllydd Cymunedol: “Rwy’n edrych ymlaen at hyrwyddo’r gwasanaethau y gall fferyllfeydd cymunedol eu darparu i gleifion yn yr Eisteddfod eleni. Mae'r rhain yn cynnwys y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin, Cynllun Profi a Thrin Dolur Gwddf, Gwasanaeth Haint y Llwybr Wrinol , yn ogystal â'r Gwasanaeth Brechu rhag y Ffliw tymhorol.

Dewch i ymuno â ni ar stondin y bwrdd iechyd, lle byddaf hefyd yn cynnig profion pwysedd gwaed i ymwelwyr, un o lawer o bethau sydd ar gael i unrhyw un sy’n galw heibio”

Bydd sawl gwasanaeth arall hefyd yn bresennol ar ein stondin i hyrwyddo cadw’n iach, gan gynnwys:

  • Gofod i fwydo'ch babi ar y fron
  • Gwybodaeth imiwneiddiadau a brechiadau plentyndod, ffliw, COVID a mwy gan y tîm ddydd Sadwrn 30/Dydd Llun 1/Dydd Mercher 3/Dydd Gwener 5 Awst
  • Bydd y Tîm Iechyd Ieuenctid dangos y gwasanaeth CHATHEALTH  newydd ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 a 25 mlwydd oed a ddatblygwyd mewn partneriaeth â’r gwasanaeth nyrsio ysgolion.  
  • Bydd y Tîm Lles Dementia yn darparu asesiad sgrinio ar gyfer unigolion sy'n pryderu am eu newidiadau gwybyddol ac yn gallu ateb unrhyw gwestiynau sydd gan unigolion am y gwasanaeth dementia sydd ar gael i bobl sy'n byw yn yr ardal ddydd Sul 31 Gorffennaf
  • Hefyd ddydd Sul 31 Gorffennaf, bydd Tîm Anableddau Dysgu Ceredigion yn rhannu gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael yn lleol i unigolion a gofalwyr
  • Dydd Sul 31 Gorffennaf a dydd Iau 4 Awst bydd Iechyd a Gofal Gwledig Cymru yn arddangos eu hymchwil a’u prosiectau arloesol, gan gynnwys y Cynllun Peilot Presgripsiwn Cymdeithasol, prosiect cydnerthedd cymunedol Gofal Cardi (Pecyn Cymorth Gofal Solfach) ac Ar dy Feic – gan gymell pobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol.
  • Dydd Llun 1 Awst, os ydych yn ceisio cyngor ar iechyd traed, gan gynnwys y posibilrwydd o atgyfeiriad i raglen Addysg Camau Iechyd ar gyfer trigolion Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, bydd y tîm Podiatreg ar gael i ateb cwestiynau.
  • Dydd Mawrth 2 Awst, bydd tîm Cynllun Gwên wrth law i roi cyngor ar iechyd y geg – yn enwedig i blant ifanc a'u rhieni, gan gynnwys dangos y ffordd orau o gadw dannedd yn lân ac yn iach.

Ychwanegodd Jo McCarthy, Dirprwy Gyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae’n amser cyffrous iawn i fod mewn digwyddiad mor enfawr yn ein cymuned lle gallwn siarad â phobl am yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw ym maes iechyd a gofal. Rydym yn gyffrous i ddangos y gwaith sy'n cael ei wneud tuag at ein strategaeth hirdymor Canolbarth a Gorllewin Iachach i gadw pobl yn iach a darparu cymorth sydd ei angen arnynt yn eu cymunedau.

“Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â chymaint ohonoch â phosib, felly dewch i ddweud helo!”

I gael y diweddaraf o stondin y bwrdd iechyd yn yr Eisteddfod, gallwch ddilyn Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar Twitter @BIHywelDda, Facebook – Bwrdd Iechyd Hywel Dda, a Instagram @hywelddauhb neu dilynwch y sgwrs #HywelaryMaes a #IechydDaHywelDda.