29 Gorfennaf 2022
Mae ymwelwyr â’r Eisteddfod yn Nhregaron yn cael eu hannog i wneud y defnydd gorau o’r gwasanaethau iechyd a gofal sydd ar gael iddynt yn ystod yr wythnos nesaf er mwyn cadw eu hunain a’u teuluoedd yn ddiogel ac iach.
Eglura Dirprwy Gyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Dr Jo McCarthy: “Mae Tregaron yn dref fechan â chalon fawr, ac mae pob un ohonom yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr o Fôn i Fynwy i’r Eisteddfod. Rydym yn gweithio’n agos gyda’r Eisteddfod, Cyngor Ceredigion, a’r gwasanaethau brys eraill, i sicrhau bod cymorth meddygol ar gael i ymwelwyr â’r Maes a Maes B.”
“Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol bod unigolion yn meddwl bod Ysbyty Tregaron ar gael i roi cymorth, ond ysbyty cymunedol yw Ysbyty Tregaron ac nid oes adran damweiniau ac achosion brys, uned mân anafiadau nac unrhyw wasanaethau ‘cerdded-i-mewn’ arall.”
“Gall unigolion sydd angen cymorth gael mynediad at ystod o wasanaethau cymorth eraill, gan gynnwys fferyllfeydd lleol yn Nhregaron, Aberaeron, Aberystwyth, a Llanbedr Pont Steffan. Uned Mân Anafiadau ac adran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Bronglais, Abeyrstwyth. Os oes angen cymorth meddygol arnoch, gofynnir i chi ystyried yn ofalus a dewis gwasanaeth yn ddoeth.”
“I gadw eich hun yn iach ac osgoi ymweliad â chyfleuster gofal iechyd, yfwch digon o ddŵr, defnyddiwch eli haul, a byddwch yn gyfrifol wrth yfed alcohol. Cofiwch hefyd i fynd â’ch meddyginiaethau arferol gyda chi.”
Mae manylion y gwasanaethau fferyllol sydd ar gael yn cael eu rhannu ag ymwelwyr â’r Eisteddfod. I ddod o hyd i fferyllfa gyfagos sy’n diwallu eich anghenion yn Nhregaron a’r cyffiniau, edrychwch ar gopi o’n taflen neu ewch i https://hduhb.nhs.wales/healthcare/services-and-teams/pharmacy/
Os ydych yn sâl ac yn ansicr beth i’w wneud, trowch at y gwiriwr symptomau ar-lein yn https://111.wales.nhs.uk/selfassessments neu ffoniwch GIG 111.
Dylech ond mynychu Adran Damweiniau ac Achosion Brys os oes gennych salwch sy’n peryglu bywyd neu anaf difrifol, megis:
• Anawsterau anadlu difrifol
• Poen difrifol neu waedu
• Poen yn y frest neu amheuaeth o strôc
• Anafiadau trawma difrifol (ee. o ddamwain car)
Os oes gennych anaf llai difrifol, ewch i un o’n Hunedau Mân Anafiadau. Gallant drin oedolion a phlant dros 12 mis oed, gydag anafiadau megis:
• Mân glwyfau
• Mân losgiadau neu sgaldiadau
• Brathiadau pryfed
• Mân anafiadau i’r breichiau, y coesau, y pen neu’r wyneb
• Corffyn estron yn y trwyn neu’r glust
Mae gennym ni wasanaethau mân anafiadau neu wasanaethau cerdded-i-mewn eraill yng Nghanolfan Gofal Integredig Aberteifi, Ysbyty Llanymddyfri ac Ysbyty Dinbych-y-pysgod, yn ogystal ag yn ein prif ysbytai acíwt. Am oriau agor, edrychwch ar ein gwefan:
https://hduhb.nhs.wales/.../hospita.../minor-injuries-units/
Helpwch ni i wneud yr Eisteddfod yn ddigwyddiad gwych i bawb, a rhannwch y wybodaeth hon gyda ffrindiau a theulu, diolch.