21 Hydref 2021
Mae Gwobrau Coleg Brenhinol y Bydwragedd (RCM) wedi cyhoeddi bod Emma McKay, bydwraig gymunedol yng Ngheredigion wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Bydwraig y Flwyddyn.
Mae'r RCM yn cynnig y gwobrau hyn i ganmol ac amlygu unigolion rhagorol sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar rieni a'u babanod, gan arddangos safonau bydwreigiaeth o'r radd flaenaf.
Dywedodd Emma McKay: “Rwy’n teimlo mor ffodus fy mod wedi cyrraedd rhestr fer Bydwraig y Flwyddyn RCM. Fel aelod o dîm cymunedol Gogledd Ceredigion, rwy'n falch o weithio ochr yn ochr â bydwragedd o'r un anian sy'n angerddol am barhad gofal.
“Mae fy rôl fel hwylusydd PROMPT Cymru wedi fy ngalluogi i ddyfeisio cymorth hyfforddi i gynorthwyo cydweithwyr ar draws y Bwrdd Iechyd i reoli argyfyngau obstetreg yn y gymuned.”
Dywedodd Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf: “Mae Emma wedi dangos ymdrechion clodwiw tuag at ddarparu gofal diogel i rieni a’u babanod yn ystod yr amser ansicr hwn.
“Hoffwn ddiolch i Goleg Brenhinol y Bydwragedd am gydnabod Emma a thynnu sylw at un o’n bydwragedd eithriadol yma yn Hywel Dda.
“Rwy’n dymuno pob lwc i ti Emma, a diolch yn ddiffuant am dy holl waith”
Bydd y seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal ar 27 Hydref 2021. Rydym yn dymuno pob lwc i ti Emma. Diolch am bopeth rwyt wedi ei wneud dros Hywel Dda”