Neidio i'r prif gynnwy

Bydd coed afiach yn cael eu symud a'u hailosod

16 Mawrth 2022

Mae tri deg o goed sydd wedi’u heintio â’r clefyd hynod ddinistriol, clefyd coed ynn, i gael eu tynnu o flaen Ysbyty Llwynhelyg, yn Sir Benfro, oherwydd y risg i ddiogelwch y cyhoedd.

Mae’r coed heintiedig yn peri risg i gerddwyr a modurwyr gan fod achosion o ganghennau’n disgyn, yn enwedig yn ystod y stormydd diweddar.

Bydd y coed yn cael eu torri dros ddau benwythnos, gan ddechrau ddydd Sul 20 Mawrth. Mae'r gwaith wedi'i amserlennu i ddigwydd ar benwythnosau gan ei fod yn gyfnod tawelach ar y ffyrdd, ac ym maes parcio'r ysbyty, o gymharu â dyddiau'r wythnos.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) yn bwriadu amnewid y coed gyda glasbrennau newydd yn y misoedd nesaf fel rhan o wella mannau gwyrdd ehangach ar y safle.

Dywedodd Stephen John, Rheolwr Gweithrediadau BIP Hywel Dda: “Fe wnaethon ni arolygu’r coed y llynedd, ac ymgynghori â Chyngor Sir Penfro. Yn anffodus, nid oes gennym unrhyw ddewis ond i gael gwared arnynt oherwydd y risg y maent yn ei achosi i gerddwyr a modurwyr. Cawsant eu plannu 30 mlynedd yn ôl, felly bydd yn drist eu gweld yn mynd, ond mae diogelwch y cyhoedd yn flaenoriaeth. Gall y cyhoedd hefyd fod yn sicr, trwy blannu’r glasbrennau, y byddwn yn cynnal amgylchedd gwyrdd y safle ar gyfer y dyfodol.

“Yn ogystal, bydd yr holl naddion pren o'r coed a dorrir yn cael eu cadw ar y safle. Rydym yn bwriadu clirio sawl man sydd wedi gordyfu, eu gorchuddio mewn treme, sef pilen atal chwyn ddu, a gosod y naddion pren ar ei ben fel ffordd o reoli chwyn. Bydd rhywfaint o’r gwastraff pren hefyd yn cael ei osod o amgylch glasbrennau yr ydym wedi’u plannu o’r blaen o amgylch y safle.”