Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus

10 Mai 2021

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gofyn i bobl Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro i helpu i lywio gwasanaethau’r dyfodol ymhellach, trwy gymryd rhan mewn ymarfer ymgysylltu dros gyfnod o chwe wythnos.

Ers cyhoeddi ei strategaeth, Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach: Cenedlaethau’r Dyfodol yn Byw’n Dda yn 2018, mae’r bwrdd iechyd wedi gweithio gyda phartneriaid i ddarparu gofal a datblygu gwasanaethau. Fodd bynnag, mae pandemig coronafeirws wedi cael effaith mawr ar wasanaethau iechyd a gofal. O ganlyniad, mae’r bwrdd iechyd am ddysgu gan y cyhoedd sut mae’r pandemig wedi effeithio ar eu hiechyd a’u gofal, a’u mynediad at y gwasanaethau hyn.

O heddiw (dydd Llun 10 Mai), mae BIP Hywel Dda yn dosbarthu dogfen drafod i’w hystyried gan y cyhoedd, ynghyd â holiadur i’w lenwi.

Mae BIP Hywel Dda hefyd yn gofyn am adborth y cyhoedd mewn perthynas â’i strategaeth hirdymor i ddatblygu ac adeiladu ysbyty newydd yn ne ardal Hywel Dda, rhywle rhwng ac yn cynnwys Sanclêr yn Sir Gaerfyrddin ac Arberth yn Sir Benfro. Dyma’r lleoliad mwyaf canolog i fwyafrif y boblogaeth yn ne ardal Hywel Dda, a phenderfynwyd arno trwy ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd yn 2018.

Gall y cyhoedd hefyd enwebu safleoedd ar gyfer ysbyty newydd, a hynny yn seiliedig ar y pedwar maen prawf canlynol:

  • Rhaid i’r safle fod yn y parth rhwng ac yn cynnwys trefi Sanclêr yn Sir Gaerfyrddin ac Arberth yn Sir Benfro. Dyma’r lleoliad mwyaf canolog ar gyfer mwyafrif y boblogaeth yn ne ardal Hywel Dda.
  • Dylai’r safle fod yn o leiaf 35 erw o dir y gellir ei ddatblygu’n rhesymol.
  • Dylai fod i’r safle debygolrwydd realistig o gael caniatâd cynllunio ar gyfer ysbyty newydd.
  • Dylai fod i’r safle isadeiledd trafnidiaeth digonol ar gyfer safle prif ysbyty.

Meddai Steve Moore, Prif Weithredwr BIP Hywel Dda: “Mae’r pandemig byd-eang wedi cael effaith ar bob agwedd ar ein bywydau felly mae’n hanfodol bod y bwrdd iechyd yn ystyried, yn myfyrio ac yn dysgu o’r cyfnod rhyfeddol hwn. Bydd yr ymgynghoriad hwn yn caniatáu i’r cyhoedd ddweud wrthym yn eu geiriau eu hunain sut mae COVID-19 wedi effeithio ar eu hiechyd a’u gofal, a’u mynediad at y gwasanaethau hyn.

“Rwy’n eich annog un ac oll i gymryd rhan gan y bydd yr adborth yn chwarae rhan fawr yn y gwaith o lywio gwasanaethau’r dyfodol. Bydd hyn yn ei dro yn ein galluogi i gyflawni ein hymrwymiad hirdymor ar gyfer canolbarth a gorllewin iachach.

“Pwysleisiaf hefyd mai dechrau proses barhaus yw'r ymarfer ymgysylltu hwn. Dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf, rydym yn bwriadu ymgysylltu â'r cyhoedd, rhanddeiliaid a phartneriaid ar amrywiaeth eang o faterion, megis modelau gwasanaeth. Bydd pawb yn cael y cyfle i ddweud eu dweud oherwydd ein bod wedi ymrwymo i ymgysylltu'n barhaus â'r cyhoedd i sicrhau ein bod yn darparu'r gofal gorau posib.”

Bydd yr ymarfer ymgysylltu yn para tan ddydd Llun 21 Mehefin 2021. Am wybodaeth bellach, trowch at: https://www.dweudeichdweud.biphdd.cymru.nhs.uk/; hyweldda.ymgysylltu@wales.nhs.uk; neu ffoniwch 01554 899 056.