Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd iechyd yn ffarwelio â'u Cyfarwyddwr Nyrsio sy'n ymddeol

26 Medi 2023

Yn dilyn gyrfa hir a boddhaus yn y GIG, bydd Mandy Rayani yn ymddeol o’i swydd fel Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf ddiwedd Rhagfyr 2023.

Daw penderfyniad Mandy i ymddeol ddiwedd y flwyddyn hon ar adeg pan fydd hi wedi bod yn aelod o deulu’r GIG ers 40 mlynedd. Yn ystod ei gyrfa cymerodd rolau fel Nyrs Adrannol Iechyd Meddwl, Nyrs Ranbarthol Llywodraeth Cymru, Prif Nyrs ac Arweinydd AHPs mewn Ymddiriedolaeth yn Lloegr ac yn ddiweddarach ymunodd â theulu Hywel Dda yn 2017.

Yn ystod ei chwe blynedd a hanner yma, mae Mandy wedi arwain ein gweithlu nyrsio gydag angerdd, arbenigedd proffesiynol a phenderfyniad i wella ansawdd a phrofiad gofal cleifion.

Mae hi wedi bod yn llysgennad gwych i’r proffesiwn nyrsio, ac yn arweinydd a chydweithiwr uchel ei pharch ar draws y bwrdd iechyd a GIG Cymru.

Dywedodd Mandy: “Rwyf wedi cael gyrfa brysur, foddhaus a gwerth chweil ym maes nyrsio. Yn ystod y cyfnod hwn, rwyf wedi gweithio gyda phobl hynod dalentog a gofalgar, a byddaf yn gweld eisiau fy nghydweithwyr yn fawr.

“Fe ddes i mewn i nyrsio oherwydd roeddwn i eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl – nid yn unig cleifion, ond eu teuluoedd/gofalwyr, a’r bobl sy’n darparu gofal: ein gweithlu. Er y byddaf yn colli’r cyfle i helpu i lywio’r modd y darperir gofal cleifion yn rhanbarth Hywel Dda yn y dyfodol, rwy’n gobeithio, i ryw raddau, fy mod wedi helpu i wneud gwahaniaeth i’r rhai yr ydym yn eu gwasanaethu.”

Ar ran y Bwrdd a’r Tîm Gweithredol, hoffwn ddiolch yn ddiffuant i Mandy am bopeth y mae wedi’i gyflawni, gyda’n staff, cleifion, eu teuluoedd a’u gofalwyr, a’n cymunedau lleol, a throstynt. Wrth ymddeol, mae Mandy yn bwriadu treulio mwy o amser gwerthfawr gyda’i theulu a gwn y byddwch yn ymuno â mi i ddymuno ymddeoliad hapus ac iach i Mandy.

Byddwn yn recriwtio ar gyfer olynydd Mandy yn y misoedd nesaf.