Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd iechyd yn derbyn statws 'Hyder Gofalwyr'

02 Mehefin 2022

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cael ei gydnabod am ei gefnogaeth i staff sydd â dyletswyddau gofalu y tu allan i’r gweithle.

Yn ddiweddar, cyflawnodd y bwrdd iechyd feincnod Cyflawnedig Lefel 2 Hyder Gofalwyr yng nghynllun Cyflogwyr i Ofalwyr, Gofalwyr Cymru, i gydnabod y cymorth a’r gefnogaeth i aelodau staff sydd hefyd â rôl ofalu yn eu bywydau personol.    

Yn ystod Wythnos Gofalwyr (6-12 Mehefin), bydd y bwrdd iechyd yn tynnu sylw at ymwybyddiaeth gofalwyr trwy gyfres o sioeau teithiol ar safleoedd ysbytai a bydd yn hyrwyddo digwyddiadau a arweinir gan bartneriaid ar draws y tair sir.

Mae cyfraniad y bwrdd iechyd at wella canlyniadau i ofalwyr di-dâl yn cael ei gydgysylltu drwy Grŵp Strategaeth Gofalwyr, sy’n cael ei oruchwylio a’i hwyluso gan y Tîm Gofalwyr. Mae gan y grŵp aelodaeth amrywiol ac mae wedi ymrwymo i gefnogi staff â rolau gofalu, yn ogystal â chleifion ac aelodau o'r teulu sy'n ofalwyr di-dâl.

Dywedodd Judith Hardisty, Is-Gadeirydd a Hyrwyddwr Gofalwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cyflawniad y wobr hon yn dangos cydnabyddiaeth y bwrdd iechyd o’r rôl amhrisiadwy y mae gofalwyr di-dâl yn ei chwarae wrth gefnogi’r rhai y maent yn gofalu amdanynt.

“Mae ein gwaith i gefnogi gofalwyr di-dâl yn amlygu sut rydym yn rhoi ein gwerthoedd ar waith ac mae’r Grŵp Strategaeth Gofalwyr yn awyddus i godi ymwybyddiaeth o’r ffyrdd y gellir cefnogi staff ymhellach.

“Bydd hyn yn cynnwys lansio fideo hyfforddi bach ar gyfer rheolwyr, a hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o ffynonellau gwybodaeth, cyngor a chymorth ymarferol, gan gynnwys ein rhwydwaith cymorth cymheiriaid a phasport gofalwyr.”

Ychwanegodd Anna Bird, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Partneriaethau Strategol, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn falch iawn o fod wedi cyrraedd y lefel hon o feincnod Hyder Gofalwyr ar gyfer Gyflogwyr i Ofalwyr a hoffem ddiolch i bawb a gyfrannodd at y dystiolaeth roedd yn rhaid i ni ddarparu.

“Mae’r adborth rydym wedi’i dderbyn hefyd yn wych ac roedd clywed bod yr aseswyr yn meddwl bod ein cais yn ‘rhagorol’ yn arbennig iawn.

“Rydym yn gobeithio bod y gwaith hwn hefyd yn adlewyrchu sut mae ein staff sydd â chyfrifoldebau gofalu yn gweld y sefydliad ac y gall rheolwyr llinell barhau i gefnogi staff yn eu timau.”


Mae gwybodaeth a chyngor i ofalwyr ar gael yma: https://hduhb.nhs.wales/healthcare/services-and-teams/carers-information/ (agor mewn dolen newydd)