10 Chwefror 2022
Mae cynlluniau ar y gweill i fynd ag Ysbyty Enfys Selwyn Samuel Llanelli yn ffurfiol drwy ei gyfnod datgomisiynu cyn cael ei ddychwelyd i berchnogaeth cyngor tref yn ddiweddarach y gwanwyn hwn, gan ddod â diwedd effeithiol i raglen ysbyty maes Covid-19 Hywel Dda ar ôl dwy flynedd.
Mae disgwyl i gontractwyr awdurdodau lleol ddechrau rhaglen o waith adfer cyn i’r bwrdd iechyd drosglwyddo Canolfan Selwyn Samuel – sy’n darparu cyfleuster bowlio dan do lleol a chanolfan ddigwyddiadau – i Gyngor Tref Llanelli ddiwedd mis Ebrill.
Mae’r bwrdd iechyd hefyd am gynnal trafodaethau gyda Chyngor Sir Caerfyrddin ynghylch dyfodol Ysbyty Enfys Caerfyrddin, sydd wedi’i leoli yng nghanolfan hamdden y dref, sydd wedi cael ei ‘roi o’r neilltu’ ers peth amser ac nad yw wedi gweld gweithgarwch cleifion y GIG ers mis Awst 2020.
Cafodd naw safle ysbyty maes yn cynnig 915 o welyau ar draws siroedd Penfro, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin eu dylunio a’u hadeiladu a’u trosglwyddo i’r Bwrdd Iechyd ar 24 Ebrill 2020 yn barod i gwrdd â’r galw am achosion Covid-19.
Ysbyty Enfys Selwyn Samuel sydd wedi gweld y gwasanaeth gweithredol hiraf (16 Tachwedd 2020 – 23 Mehefin 2021) o’n holl ysbytai maes, gan drin 263 o gleifion o fewn yr amser hwnnw.
Ers cael ei ddirwyn i ben fel ysbyty maes ym mis Mehefin 2021, mae’r safle wedi cefnogi gweithgarwch ehangach y Bwrdd Iechyd drwy weithredu fel canolfan ar gyfer y tîm ymateb acíwt lleol, clinig lymffoedema ac fel lleoliad hyfforddi a datblygu a helpodd ni i ddod â 160 o staff ychwanegol y mae mawr eu hangen i mewn i'r system cyn y gaeaf. Gweithredwyd Ysbyty Enfys Caerfyrddin fel peilot ar ddiwedd haf 2020 a chefnogodd ofal 32 o gleifion mewnol.
Fodd bynnag, mae effaith cyfradd heintiau straen coronafeirws Omicron sy'n is na'r disgwyl, ynghyd â heriau staffio, wedi golygu nad yw'r cyfleusterau'n gweld defnydd clinigol bellach gan gleifion mewnol yn ystod y cyfnod diweddaraf o bwysau ar y system iechyd.
Talodd Prif Weithredwr Hywel Dda, Steve Moore, deyrnged i Gyngor Tref Llanelli am eu cefnogaeth i helpu’r bwrdd iechyd i reoli ei gleifion, ac am fod yn hyblyg yn wyneb ansicrwydd mawr.
Ychwanegodd: “Bydd hwn yn etifeddiaeth sylweddol ar gyfer y cyfleuster ac wrth gwrs Cyngor Tref Llanelli. I’r Bwrdd Iechyd, mae’r ganolfan wedi bod yn ffynhonnell cymorth aruthrol yn ein nodau i fynd i’r afael ag effeithiau anuniongyrchol y tonnau niferus o coronafeirws yr ydym wedi’u gweld yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.
“Ar ran y Bwrdd Iechyd, hoffwn ddiolch i’r Cyngor Tref am y gefnogaeth, hyblygrwydd ac amynedd a ddarparwyd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf trwy wir ysbryd cydweithio a phartneriaeth.”