Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd iechyd yn cael ei gydnabod am ei agwedd tuag at iechyd a llesiant staff

Bwrdd iechyd yn cael ei gydnabod am ei agwedd tuag at iechyd a llesiant staff

13 Ionawr 2023

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cael ei gydnabod am gefnogi a hybu iechyd a lles ei staff drwy raglen Cymru Iach ar Waith

Mae cynllun gwobrau’r rhaglen yn cael ei gydnabod fel y nod ansawdd cenedlaethol ar gyfer iechyd a llesiant yn y gweithle. Mae’r achrediad hwn yn dangos bod y bwrdd iechyd wedi cynnal ei lefel dyfarniad Safon Iechyd Gorfforaethol bresennol yn llwyddiannus, drwy ei ymrwymiad parhaus i arferion gwaith, mentrau a chymorth iachus.

Dywedodd Lisa Gostling, Cyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygiad Sefydliadol: “Rwyf yn falch iawn o dderbyn cydnabyddiaeth genedlaethol i’n gwaith ar iechyd a llesiant staff. Mae’r wobr hon yn dangos y gwaith caled a’r ymroddiad y mae ein staff yn ei wneud bob dydd i geisio gwneud gwahaniaethau cadarnhaol i’r bobl rydym yn eu gwasanaethu a’r cydweithwyr rydym yn gweithio ochr yn ochr â nhw.”

Drwy gydol y pandemig, bu timau Gweithlu a Datblygu Sefydliadol y bwrdd iechyd yn gweithio’n ddiflino i sicrhau bod gan staff fynediad at ystod eang o gymorth. Mae creu rhwydwaith o Hyrwyddwyr Llesiant wedi bod yn allweddol i sicrhau bod cydweithwyr yn gwybod sut a ble i gael cymorth. Mae Gwasanaeth Llesiant Seicolegol y Staff hefyd wedi datblygu cyfoeth o adnoddau i ddarparu'r cymorth sydd ei angen ar staff.

Mae’r tîm Diwylliant a Phrofiad y Gweithlu sydd newydd ei ffurfio hefyd wedi cyflwyno cyfres o raglenni yn ddiweddar i gefnogi llesiant ariannol ac addysg ar gyfer ei holl staff.

Mae rhagor o wybodaeth am y Safon Iechyd Gorfforaethol ar gael yma Cymru Iach ar Waith - Iechyd Cyhoeddus Cymru (agor yn dolen newydd).