Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ymestyn ei wasanaeth asesiadau digidol i gleifion Lymphoedema

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ymestyn ei wasanaeth Asesiadau Digidol ar-lein ar gyfer cleifion Lymffoedema addas ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Mae Asesiadau Digidol yn helpu cleifion i hysbysu eu tîm clinigol am eu hiechyd rhwng apwyntiadau ac ar hyn o bryd fe'u defnyddir yn llwyddiannus yng ngwasanaeth Swyddogaeth y Galon, trawma ac orthopaedeg a gwasanaethau gofal llygaid y bwrdd iechyd.

Bydd cleifion addas sy'n derbyn gofal gan y gwasanaeth Lymffoedema yn derbyn neges destun neu e-bost gyda dolen nhs.my i ffurflen Asesu Digidol gyda chwestiynau am symptomau, iechyd corfforol ac ansawdd bywyd.

Bydd y tîm sy'n gyfrifol am ofal y claf yn gallu adolygu'r wybodaeth a ddarperir yn yr Asesiad Digidol, gan ganiatáu iddynt wirio cynnydd y claf a deall ei iechyd rhwng apwyntiadau.

Mae'r ddolen nhs.my yn y neges destun a'r e-bost yn ddibynadwy ac yn cael ei ddarparu gan DrDoctor, gwasanaeth sydd wedi'i achredu i'r safonau uchaf a osodwyd gan y GIG ar gyfer amddiffyn gwybodaeth gofal iechyd dinasyddion y DU.

Bydd y wybodaeth a ddarperir yn cael ei storio'n ddiogel yng nghofnod y claf.

Gan y gall lymphoedema fod gyflwr gydol oes, mae'n bwysig ein bod ni'n gweithio gyda'n gilydd i'ch helpu chi i reoli'ch cyflwr cronig mor annibynnol â phosib. Mae hyn yn golygu y byddwch chi fel claf yn gweithio mewn partneriaeth â'ch therapydd i reoli'ch lymffoedema yn llwyddiannus; mae'r asesiad digidol hwn yn rhan sylfaenol o'r bartneriaeth honno.

Dywedodd Dr Phil Kloer, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Meddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda “Mae'n wych ein bod yn gallu ehangu'r defnydd o Asesiadau Digidol ar gyfer cleifion addas sydd o dan ofal ein gwasanaeth Lymffoedema.

“Nid yw Asesiadau Digidol yn disodli gofal clinigol. Bydd y wybodaeth a ddarperir trwy'r platfform diogel hwn yn monitro symptomau gartref yn rheolaidd i'n helpu i ddeall eich iechyd yn well a gwneud y defnydd gorau o'r amser a dreulir gyda'ch tîm clinigol. ”

Os yw'ch therapydd wedi'ch adnabod chi fel claf addas i ddefnyddio Asesiadau Digidol byddwch chi'n derbyn neges destun neu e-bost yn awtomatig yn gofyn i chi lenwi'r ffurflen ar-lein rhwng eich apwyntiadau.

Mae'n bwysig bod gennym eich rhif ffôn symudol cywir, enw llawn, cod post, dyddiad geni ac e-bost fel y gallwch fewngofnodi i lenwi'ch ffurflen ar-lein. Os oes angen i chi ddiweddaru eich manylion cyswllt, ffoniwch ni ar 0300 303 9642.

I ddarganfod mwy am Asesiadau Digidol ewch i Asesiadau digidol - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (gig.cymru)