18 Ionawr 2023
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) yn annog pob person cymwys sydd eto i gael eu dos atgyfnerthu COVID-19 yr hydref a/neu eu brechlyn ffliw blynyddol i gael eu hamddiffyn.
Gyda phwysau aruthrol ar adrannau brys ac ysbytai, mae’r canolfannau brechu torfol ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro bellach ar agor ar gyfer sesiynau galw heibio ar gyfer eich pigiad ffliw a COVID-19.
Rydych yn gymwys os ydych yn:
• 50 oed neu drosodd
• preswylydd neu staff mewn cartrefi gofal i bobl hŷn
• gweithwyr iechyd a gofal rheng flaen
• rhwng 5 a 49 oed sydd mewn grŵp risg clinigol, a'u cysylltiadau cartref
• gofalwr rhwng 16 a 49 oed
Dywedodd Dr Joanne McCarthy, Dirprwy Gyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Feirws y ffliw sy’n achosi’r ffliw. Gall fod yn salwch annymunol iawn ac arwain at broblemau difrifol, fel broncitis a niwmonia.”
“Mae ysbytai ar draws rhanbarth Hywel Dda yn trin nifer uchel o gleifion â salwch anadlol ac mae brechiadau yn ffordd ddiogel ac effeithiol o helpu i atal rhag mynd yn ddifrifol wael os byddwch chi’n dal y ffliw neu COVID-19 y gaeaf hwn.”
Lleoliadau ac Oriau Agor Canolfannau Brechu Torfol: