Neidio i'r prif gynnwy

At sylw myfyrwyr - A yw brechu ar eich rhestr o bethau i'w gwneud?

7 Medi 2021

Mae wedi bod yn flwyddyn heriol i bawb. Mae myfyrwyr a staff yn dychwelyd i gampysau ledled y DU ac mae brechiadau'n bwysicach nag erioed. Mae pawb dros 16 oed yn gymwys i gael y brechlyn COVID-19. 

Mae cael y brechiadau diweddaraf yn bwysig i bob un ohonom, ond hyd yn oed yn fwy felly i fyfyrwyr sy'n dechrau yn y brifysgol a fydd yn cyfarfod, yn cymysgu ac yn byw gyda llawer o bobl newydd. Gall prifysgolion fod yn fannau problemus o ran y frech goch, clwy'r pennau a chlefyd meningococaidd yn ogystal â COVID-19 gan eu bod yn gyfle perffaith i heintiau ledaenu. 

Bydd un o bob pump o oedolion ifanc sy’n dechrau yn y brifysgol am y tro cyntaf yr hydref hwn wedi colli brechlynnau rheolaidd yn gynharach mewn bywyd sy'n amddiffyn rhag cyflyrau a allai fod yn angheuol.  
 

Rhestr wirio ar gyfer dod yn ôl at ein gilydd 

Cyn gadael am y brifysgol  

  1. Dau ddos o'r brechlyn MMR    

  1. Un dos o MenACWY~                  

  1. Dau ddos o'r brechlyn COVID-19  
    (16 ac 17 oed dos cyntaf gyda'r ail yn yr arfaeth) 

  2. Dau ddos o'r brechlyn HPV*       

  3. Gwybod arwyddion a symptomau llid yr ymennydd a septisemia  

  4. Gwybod sut i geisio cyngor meddygol 

 

Pan fyddwch yn cyrraedd y brifysgol dylech 

  1. Cofrestru gyda meddyg teulu cyn gynted ag y gallwch – peidiwch ag aros nes bod gennych broblem 

  2. Trefnu gyda’ch meddyg teulu i ddal i fyny ar unrhyw frechlynnau rydych wedi'u colli 
    (gellir rhoi brechlyn COVID-19 mewn canolfannau galw i mewn) 
     

~hyd at ben-blwydd yn 25 oed 

*ar gyfer myfyrwyr benywaidd hyd at 25 oed, gall myfyrwyr gwrywaidd sy'n MSM gael y brechlyn HPV hyd at 45 oed mewn clinigau STD

 

A oes angen i chi ychwanegu brechu at eich rhestr o bethau i'w gwneud?  

Rhaid i bawb y gellir eu brechu fanteisio ar y cynnig gan fod hyn yn helpu i amddiffyn pobl agored i niwed na ellir eu brechu am sawl rheswm. Mae cael eich brechu'n llawn yn helpu i atal trosglwyddo clefydau heintus ac mae'n helpu i'ch amddiffyn chi, eich teulu, eich cyfoedion a'ch darlithwyr. 

I gael gwybod a ydych wedi cael eich brechiadau diweddaraf, cysylltwch â'ch meddygfa. 

 

Brechiadau COVID-19 

Dylai unrhyw un 18 oed neu drosodd dau ddos o'r brechlyn COVID-19 i'w hamddiffyn rhag clefyd difrifol a gorfod mynd i'r ysbyty. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth ewch i adran gwybodaeth brechlyn COVID-19 ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru (agor mewn dolen newydd)   

Os ydych wedi cael un dos o frechlyn COVID-19 (agor mewn dolen newydd), o leiaf 8 wythnos yn ôl, dylech drefnu i gael eich ail ddos cyn gynted â phosibl. Mae cael yr ail ddos yn bwysig ar gyfer amddiffyniad hirach.

Bydd pob person ifanc 16 ac 17 oed hefyd yn cael cynnig y dos cyntaf o'r brechlyn Pfizer-BioNTech. Bydd cyngor ynghylch pryd i gael yr ail ddos o'r brechlyn yn dilyn yn ddiweddarach.

Er bod rhai pobl yn dal i gael haint COVID-19 ar ôl brechu, mae eu symptomau fel arfer yn llawer ysgafnach ac maent yn llai tebygol o fod â chymhlethdodau. Gall myfyrwyr sydd â chyflyrau iechyd penodol gael cynnig brechiad atgyfnerthu COVID-19 yn ystod blwyddyn academaidd 2021 i 2022. Rydym yn annog myfyrwyr i barhau i fod yn wyliadwrus.  

  • Golchwch eich dwylo'n rheolaidd a defnyddiwch hylif diheintio sy'n seiliedig ar alcohol os na allwch ddefnyddio sebon a dŵr. 

  • Cadwch bellter cymdeithasol lle gallwch 

  • Gwisgwch fasg pan fo angen. 

Byddwch yn barod i ddilyn y canllawiau yn eich prifysgol a'ch tref neu ddinas. Mae masgiau wyneb yn dal i fod yn ofynnol mewn rhai lleoliadau. Mewn llety cadwch ystafelloedd gwely ac ystafelloedd cyffredin yn lân ac wedi'u hawyru'n dda drwy agor ffenestri lle y bo'n bosibl.  

 

Yn teimlo'n sâl – dywedwch wrth rywun! 

Rydym am i bawb fod yn iach a mwynhau eu hamser yn y brifysgol ond gall cymysgu â phobl newydd gynyddu lledaeniad clefydau heintus. Sicrhewch eich bod wedi cofrestru gyda meddyg teulu cyn i chi fod yn sâl.  Gall llawer o fyfyrwyr newydd ddal ‘ffliw'r glasfyfyrwyr’ ac mae angen iddynt orffwys, ond gallant gymryd meddyginiaeth gwrth-boen dros y cownter fel parasetamol i'w helpu i deimlo'n well. Os oes gennych symptomau llid yr ymennydd neu sepsis, y frech goch neu glwy’r pennau dylech geisio cyngor meddygol yn gyflym.  

Gallwch fynd i wefan GIG 111 Cymru (agor mewn dolen newydd) neu ffonio 111 am gyngor dros y ffôn. Os nad yw 111 ar gael yn eich ardal chi, ffoniwch 0845 46 47. Mae galwadau i 111 am ddim o linellau tir a ffonau symudol. Mae galwadau i 0845 46 47 yn costio 2c y funud ynghyd â thâl arferol eich darparwr ffôn. 

Mewn argyfwng meddygol, ffoniwch 999. Os ydych yn sâl, dywedwch wrth rywun, yn ddelfrydol rhywun a all wirio eich bod yn iawn a ffonio am help os nad ydych yn iawn. Cadwch mewn cysylltiad â’ch cymdogion a gofalwch am eich gilydd.  

Os credwch fod gennych COVID-19 dilynwch y canllawiau diweddaraf gan y llywodraeth (agor mewn dolen newydd)

 

Beth sydd angen i mi ei wneud?

Cysylltwch â'ch meddygfa yn gyntaf. Os nad ydych yn siŵr pa frechiadau rydych wedi'u cael, gwiriwch. Os nad yw eich cofnodion ar gael, neu os ydych yn credu eich bod wedi colli rhai brechlynnau, trefnwch apwyntiad i'w cael cyn i chi adael. 

 

Eisoes yn y brifysgol? 

Os symudoch i ddinas newydd ar gyfer y brifysgol a chofrestru gyda meddyg teulu newydd, bydd ganddynt eich cofnodion ac yn gallu gwirio i chi. 

Os oes amheuon gennych, mynnwch eich brechiadau a gwnewch yn siŵr eich bod wedi'ch amddiffyn yn llawn. Mae cael eich brechu'n llawn yn golygu bod gennych yr amddiffyniad gorau. Nid oes unrhyw frechlyn yn gwbl effeithiol, felly dylech gadw llygad am arwyddion a symptomau clefyd a gofalu am eich iechyd. Yna gallwch barhau i fwynhau popeth sydd gan y brifysgol i'w gynnig