Neidio i'r prif gynnwy

Arolwg Llesiant COVID-19 Cymru gyfan

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cefnogi astudiaeth genedlaethol sy'n ceisio deall sut mae'r pandemig parhaus wedi effeithio ar iechyd meddwl a llesiant emosiynol pobl ledled Cymru.

Cynhaliwyd arolwg cyntaf yr astudiaeth rhwng Mehefin a Gorffennaf 2020 a chasglwyd ymatebion gan 15,000 o gyfranogwyr o bob rhan o Gymru. Gallwch ddarganfod mwy am ganlyniadau'r arolwg diwethaf yma: https://wales-wellbeing.co.uk/cy/canlyniadau-arolwg-lles-covid19

Mae'r astudiaeth bellach wedi lansio ei harolwg nesaf ac anogir pawb sy'n byw yng Nghymru sy'n 16 oed neu'n hŷn i gymryd rhan.

I gael mynediad i'r arolwg, neu i gael mwy o wybodaeth amdano, ewch i: https://swanseachhs.eu.qualtrics.com/jfe/form/SV_8iHfmrZmELSDVUV?Q_Language=CY

Ni ddylai'r arolwg gymryd mwy na 15 munud i'w gwblhau.

Dadansoddir canlyniadau'r arolwg ar lefel genedlaethol a lleol ac fe'u defnyddir i arwain y GIG yng Nghymru i gefnogi llesiant y boblogaeth dros y misoedd nesaf.