05 Mai 2023
Mae cynlluniau wedi'u rhoi ar waith yn Ysbyty Llwynhelyg i sicrhau bod cyn lleied o darfu â phosibl wrth i waith arolygu pellach ddechrau ar blanciau to concrit mewn wardiau ar safle'r ysbyty yn Hwlffordd.
Daw’r gwaith yn sgil pryderon a godwyd gan Lywodraeth Cymru (LlC) am ddiogelwch deunyddiau a ddefnyddiwyd wrth adeiladu ysbytai’r GIG rhwng 1960 a 1995.
Gofynnwyd i bob bwrdd ac ymddiriedolaeth iechyd yng Nghymru, gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIPHDd) benderfynu a oedd planciau concrit awyrog awtoclaf cyfnerth (RAAC) yn bresennol ar adeiladau mewn toeau, waliau neu loriau ac adrodd yn ôl i Lywodraeth Cymru (LlC). ) gyda'r canfyddiadau a chynllun rheoli.
Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithrediadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Andrew Carruthers, fod y broses hon wedi nodi presenoldeb nifer fawr o blanciau RAAC yn nho Ysbyty Llwynhelyg. Gall y planciau hyn gael eu gwanhau gan fynediad ddŵr am gyfnod hir.
“Dangosodd ymchwiliadau pellach ym mis Ionawr 2022 a chanllawiau a oedd yn dod i’r amlwg fod angen rhaglen fanwl o ymchwiliadau i bennu cyflwr y planciau concrit ac i ddarparu’r sicrwydd parhaus ynghylch diogelwch y planciau hyn oherwydd graddfa presenoldeb planciau RAAC yn Ysbyty Llwynhelyg,” meddai Mr Carruthers.
“Mae adolygiadau blaenorol wedi nodi nad oes unrhyw bryderon iechyd a diogelwch ar hyn o bryd ond mae’r arolwg yn Ysbyty Llwynhelyg yn cael ei gynnal i ganfod unrhyw waith y gallai fod ei angen yn y dyfodol.”
Bydd yr arolygon yn Ysbyty Llwynhelyg yn cael eu cwblhau fesul ward, fesul planc. Disgwylir y bydd y gwaith hwn yn achosi cryn aflonyddwch ac yn cymryd tua naw mis i'w gwblhau.
Er mwyn cwblhau’r gwaith, a fydd yn dechrau ganol mis Mai, bydd rhai cleifion a staff ysbyty yn symud i Ward Cleddau yn Ysbyty De Sir Benfro yn Noc Penfro.
Dywedodd Mr Carruthers y gall staff, cleifion a'r cyhoedd fod yn sicr bod y sefyllfa'n cael ei monitro'n agos ac nad oes unrhyw bryderon diogelwch uniongyrchol.
“Nid yw’r sefyllfa’n unigryw i Llwynhelyg gydag ysbytai eraill ar draws y DU yn wynebu heriau tebyg. Mae strwythur yr adeilad yn gadarn ond efallai y bydd angen gwaith atgyweirio os canfyddir planciau RAAC diffygiol.
“Mae’n rhy gynnar i asesu faint o waith adfer fydd ei angen. Mae'r tîm Ystadau yn gweithio gyda rheolwyr clinigol a nyrsio i darfu cyn lleied â phosibl ar staff a chleifion. Bydd gennym well syniad o gwmpas y gwaith atgyweirio unwaith y bydd y gwaith arolygu wedi’i gwblhau.”
Mae'r gwaith hwn i'w wneud ochr yn ochr â'r rhaglen waith Diogelwch Tân presennol sydd hefyd yn cyflwyno heriau o ran sicrhau bod lle ar gael ar gyfer gwaith.
“Mae arolwg planciau RAAC a gwaith diogelwch tân yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus i gadw Ysbyty Llwynhelyg yn hyfyw ar gyfer y dyfodol,” meddai Mr Carruthers.
Yn yr un modd â safleoedd eraill Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, mae ardal fach yn Ysbyty Bronglais y mae mater RAAC yn effeithio arni. Mae'r planciau yn Ysbyty Bronglais wedi'u lleoli mewn un ystafell beiriannau a bydd arolwg a chynllun rheoli ar wahân yn cael eu gweithredu ar y safle hwn yn y dyfodol agos.