Neidio i'r prif gynnwy

Arglwydd Raglaw yn ymweld â Chanolfan Brechu Torfol

Mae Arglwydd Raglaw Dyfed Ei Mawrhydi, Miss Sara Edwards, wedi talu teyrnged i bawb fu’n rhan o raglwn frechu COVID-19, yn ystod ymweliad â Chanolfan Brechu Torfol Y Ffwrnes yn Llanelli.

Ar yr ymweliad ddydd Mercher 9 Mehefin roedd yr Is-Arglwydd Raglaw, Lt Col David Mathias ac Uchel Siryf Dyfed, Mr Jonathan Gravell hefyd yn bresennol. Fe wnaethant gyfarfod a siarad â brechwyr y ganolfan, staff y GIG, staff diogelwch a gwirfoddolwyr.

Hyd yn hyn, mae ymdrechion ar y cyd y canolfannau brechu torfol, meddygfeydd a fferyllfeydd cymunedol yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, wedi arwain at gyflwyno mwy na 431,850 o frechiadau gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae hyn yn golygu bod 266,785 o'r boblogaeth gymwys bellach wedi cael brechlyn cyntaf, ac mae 165,056 wedi cael y ddau ddos.

Dywedodd Arglwydd Raglaw Dyfed: “Roedd yn hyfryd gweld o lygad y ffynnon y gwaith anhygoel sy'n cael ei wneud gan y brechwyr, staff y GIG a gwirfoddolwyr. Maent wedi chwarae rhan hanfodol yn llwyddiant y rhaglen cyflwyno brechlynnau. Rydym hefyd yn talu teyrnged i'r cyhoedd am eu hymateb hynod gadarnhaol i gael eu brechu.”

Ychwanegodd Maria Battle, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Ar ran y bwrdd iechyd, roeddwn yn falch iawn o groesawu Arglwydd Raglaw Dyfed Ei Mawrhydi, Miss Sara Edwards, yr Is-Arglwydd Raglaw, Lt Col David Mathias, ac Uchel Siryf Dyfed, Mr Jonathan Gravell. Rwy'n falch iawn o bawb sy'n ymwneud â'r rhaglen frechu, ac rwy'n falch eu bod wedi gallu gweld y gwaith anhygoel sy'n cael ei wneud i'n helpu trwy'r pandemig hwn gyda’u llygaid eu hunain.”