Neidio i'r prif gynnwy

Apêl Codi Arian Hywel Dda COVID19

Diweddariad COVID Hywel Dda

Mae ein cymunedau ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro wastad wedi codi arian a hyrwyddo'r GIG dros y blynyddoedd ac mae’r gefnogaeth a rhoddion i'n staff ar y rheng flaen wedi bod yn anhygoel mewn ymateb i'r pandemig presennol.

Rydyn ni wedi cael ein llethu gan garedigrwydd llwyr y cyhoedd yn darparu rhoddion i'n staff a'n cleifion, ond mae'n bwysig iawn bod pawb yn cael eu cadw'n ddiogel a rhaid cadw at y trefniadau sydd ar waith sy'n cyfyngu ar ymweld â safleoedd ein hysbytai. Yn anffodus mae'r amser wedi dod felly ble mae'n rhaid i ni fynnu bod pobl yn rhoi'r gorau i ymweld â'n hysbytai i ddosbarthu rhoddion.

Cofiwch - y cam pwysicaf y gallwn ni i gyd ei gymryd wrth ymladd coronafirws yw aros gartref er mwyn amddiffyn y GIG ac achub bywydau. Dylech deithio dim ond os yw'n gwbl hanfodol ac mae angen i ni i gyd roi'r gorau i gyswllt â phobl eraill o'r tu allan i'n cartrefi.

Serch hynny,  rydyn ni'n gwybod am y gwahaniaeth enfawr y mae eich cefnogaeth a'ch rhoddion yn ei wneud i forâl a lleiant  ein staff ar ein rheng flaen ar hyn o bryd ac nid ydym am roi stop ar hynny - ond mae angen i ni ei wneud yn wahanol os ydym am helpu i gadw pawb yn ddiogel.

Dyma pam rydyn ni wedi sefydlu tudalen Just Giving a bydd pob ceiniog rydych chi'n ei rhoi yn cael ei chyfeirio i gefnogi llesiant staff a gwirfoddolwyr y GIG sy'n gofalu am gleifion COVID-19.

Rydym yn dechrau estyn allan at ein staff i ofyn iddynt gysylltu â Elusennau Iechyd Hywel Dda i roi gwybod i ni a oes eitemau hanfodol sydd eu hangen arnynt ar frys er lles staff, gwirfoddolwyr a chleifion. Mae'r arian a godwyd eisoes wedi caniatáu i ni brynu 1,000 o fagiau o bethau ymolchi bach ar gyfer staff rheng flaen.

Ni ddefnyddir rhoddion i dalu am eitemau a gwasanaethau y mae'r llywodraeth a'r GIG wedi ymrwymo i'w hariannu.

Os gallwch chi helpu, ewch i www.justgiving.com/campaign/HywelDdaNHSCOVID19