Neidio i'r prif gynnwy

Apêl £500,000 wedi'i lansio ar gyfer uned ddydd cemotherapi newydd yn Ysbyty Bronglais

30 Tachwedd 2021

Mae apêl codi arian yn cael ei lansio heddiw i godi £500,000, sef y swm sy’n weddill o’r cyfanswm sydd ei angen i allu darparu Uned Gemotherapi bwrpasol i gleifion allanol yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais.

Gyda chymorth a chefnogaeth pobl o bob cwr o Geredigion a thu hwnt, gellir gwireddu’r weledigaeth o gael uned gemotherapi newydd sbon ar gyfer pobl leol.

Bydd un o bob dau berson yng Nghymru yn cael diagnosis o ganser ar ryw adeg yn eu bywyd; yn anffodus, mae’n glefyd sy’n effeithio ar bron bob teulu. Mae dros 60 o bobl yr wythnos yn cael triniaeth gwrth-ganser hollbwysig yn Ysbyty Bronglais, sef cyfanswm o ryw 300 o bobl y flwyddyn o Geredigion, de Gwynedd a gogledd Powys.

Bydd datblygu uned newydd yn costio oddeutu £2.2 filiwn, ac mae cyfanswm o bron £1.7 miliwn wedi’i gadarnhau eisoes ar gyfer y cynllun, diolch yn bennaf i haelioni ein cymunedau lleol.

Trwy Apêl Cemo Bronglais, mae un ymdrech olaf yn cael ei gwneud yn awr i godi’r £500,000 sy’n weddill.

Prif nod y datblygiad yw darparu uned gemotherapi i gleifion allanol, sy’n fodern ac yn addas i’r dyfodol, er mwyn gwella profiad cleifion.

Nid yw’r uned gemotherapi bresennol i gleifion allanol wedi’i dylunio na’i bwriadu i ddarparu triniaeth gwrth-ganser. Ar hyn o bryd, mae’r uned mewn ardal agored, hen ffasiwn gyda nifer o glinigau eraill i gleifion allanol o’i chwmpas, ac mae angen cryn dipyn o waith moderneiddio arni er mwyn gallu darparu triniaeth gwrth-ganser yno yn y dyfodol.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cymeradwyo cynlluniau i’r uned gemotherapi aros yn ei lleoliad presennol ac iddi gael ei hehangu a’i hailwampio’n llwyr.

Mae’r angen am y datblygiad hwn wedi’i drafod ers sawl blwyddyn. Gan fod y cynllun wedi’i gymeradwyo erbyn hyn, y nod yw i’r gwaith adeiladu ddechrau ar yr uned newydd ym mis Chwefror 2023.

Mae Apêl Cemo Bronglais yn cael ei lansio gan Elusennau Iechyd Hywel Dda, sef elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – ac mae angen codi £500,000 er mwyn i’r gwaith adeiladu ddechrau.

Meddai Peter Skitt, Cyfarwyddwr Sirol Ceredigion ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Pan fyddwn yn siarad â chleifion, byddwn yn clywed llawer o bethau gwych am y gofal a’r gefnogaeth a gynigir gan y staff ac am y modd y maent yn gwneud mwy nag sydd raid yn aml i helpu cleifion. Ond mae angen i’r ardal y mae’r uned ynddi gael ei diweddaru er mwyn adlewyrchu’r gofal rhagorol sy’n cael ei ddarparu a’r bobl ymroddedig sy’n gweithio yma.

“Byddai uned gemotherapi newydd i gleifion allanol yn golygu ein bod yn rhoi profiad gwell i’n cleifion mewn cyfleuster modern sy’n addas i’r dyfodol ac sydd wedi’i deilwra ar gyfer cleifion â chanser sydd wedi cyrraedd amryw gyfnodau, gan gynnig lle mwy cysurus a chynnig mwy o breifatrwydd ac urddas.

“Y staff fydd yn arwain y gwaith o gadarnhau dyluniad terfynol yr uned newydd, gan mai nhw sy’n gwybod orau beth y dylai’r uned ei ddarparu a sut fath o amgylchedd y dylid ei greu. Bydd cleifion a rhanddeiliaid allweddol eraill yn cael eu cynnwys yn y broses hefyd.”

Meddai Gina Beard, Nyrs Arweiniol - Canser: “Mae’r apêl hon yn golygu cymaint i’r staff. Mae aelodau’r tîm yn Ysbyty Bronglais yn darparu gwasanaeth ardderchog ond maent yn gwybod y gallent ddarparu gwasanaeth gwell fyth o wella’r amgylchedd a chreu lle mwy cadarnhaol a golau.

“Byddai cael uned bwrpasol yn golygu bod modd cael mwy o breifatrwydd i ddiwallu anghenion gwahanol ein cleifion wrth iddynt fynd trwy eu triniaeth. Mae gwir angen help ein cymunedau lleol arnom gan ein bod yn edrych ymlaen yn eiddgar at weld y gwaith adeiladu’n dechrau!”

Meddai Tara Nickerson, Rheolwr Codi Arian Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Mae ein cymunedau lleol wedi bod mor hael yn barod, ac mae dros dri chwarter y cyllid wedi’i sicrhau. Dim ond £500,000 sydd ei angen arnom yn awr i gyrraedd ein targed a gallu darparu uned newydd, ac rydym yn apelio am gymorth y cyhoedd i godi’r cyllid hanfodol hwn a’n cynorthwyo mewn unrhyw ffordd bosibl.

“Gyda’n gilydd, gallwn helpu i wella profiad cleifion canser, a gwireddu’r freuddwyd o gael uned gemotherapi newydd sy’n addas i’r dyfodol.”

Sut mae cefnogi’r apêl/ffyrdd o roi arian:

Ar-lein: Y ffordd hawsaf a chyflymaf o roi arian yw trwy fynd i dudalen yr apêl codi arian ar y we, sef www.hywelddahealthcharities.org.uk lle gallwch wneud un taliad diogel neu drefnu taliad misol rheolaidd drwy gydol cyfnod yr apêl.

Drwy’r post: Gellir anfon sieciau’n daladwy i ‘Apêl Uned Gemotherapi Bronglais T392’ i bencadlys yr elusen, sef Elusennau Iechyd Hywel Dda, Hafan Derwen, Parc Dewi Sant, Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin, SA31 3BB. Cofiwch gynnwys eich manylion cyswllt a pheidiwch ag anfon unrhyw arian parod drwy’r post.

Codi arian ar gyfer yr apêl: Gellir creu tudalennau codi arian ar-lein trwy dudalen yr apêl ar y we, sef www.hywelddahealthcharities.org.uk. Fel arall, gellir darparu ffurflenni nawdd a blychau a bwcedi casglu arian i gefnogwyr, o gael cais amdanynt. Cysylltwch â’r Tîm Codi Arian i gael rhagor o wybodaeth drwy anfon ebost i bronglaischemoappeal.hdd@wales.nhs.uk neu ffonio 01970 613881.

BACS: Gellir darparu manylion banc i gefnogwyr ar gyfer taliadau BACS/trosglwyddo arian ar-lein, o gael cais amdanynt. Cysylltwch â’r Tîm Codi Arian i gael mwy o wybodaeth drwy anfon ebost i bronglaischemoappeal.hdd@wales.nhs.uk neu ffonio 01970 613881.