Neidio i'r prif gynnwy

Annog cleifion anadlol i ymuno â gwasanaeth ar-lein newydd

Bydd dros 2,000 o bobl sy'n derbyn gofal gan wasanaeth anadlol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn derbyn llythyr yn ystod yr ychydig ddyddiau nesaf yn eu gwahodd i ddechrau defnyddio Patients Know Best (PKB), gwasanaeth ar-lein newydd sydd wedi'i gynllunio i wella profiad claf a mynediad at wasanaethau a gwybodaeth y GIG.

System ddiogel yw Patients Know Best sy'n eich galluogi i gael gafael ar wybodaeth mewn perthynas â'ch iechyd yn unrhyw le, ar unrhyw adeg ac sy'n eich rhoi chi, y claf, yng ngofal o’ch data meddygol. Mae eich cofnod wedi'i amgryptio fel mai dim ond chi a'r rhai rydych chi'n rhoi caniatâd iddynt sy’n cael mynediad iddo.

Bydd y system hefyd yn darparu lle diogel ar-lein i weld eich llythyrau apwyntiadau; caniatáu ichi olrhain a monitro eich iechyd a'ch symptomau; a darparu mynediad i lyfrgell o adnoddau iechyd i gynorthwyo i reoli eich iechyd.

Dywedodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Steve Moore: “Mae'n wych gallu cynnig y gwasanaeth ar-lein newydd hwn i'n cleifion anadlol ac rydym yn gobeithio ei gyflwyno i wasanaethau eraill cyn gynted â phosibl.

“Mae gwneud gwell defnydd o dechnoleg i alluogi bod ein cleifion yn cael mynediad at ofal a gwybodaeth wedi bod yn flaenoriaeth allweddol i ni ac mae’r pandemig wedi ei gyflymu.

“Hoffwn ddiolch i’r holl dimau sy’n ymwneud â sicrhau bod Patients Know Best  ar-lein yn Hywel Dda ac annogaf  ein cleifion yn gryf i arwyddo os ydych chi'n derbyn gwahoddiad gennym ni."

Os ydych chi'n derbyn llythyr gwahoddiad gennym ni i gofrestru gyda Patient Knows Best, bydd eich llythyr yn cynnwys cod gwahoddiad a mynediad i ymuno.

Mae adborth cleifion ar Patient Knows Best wedi dangos: "Yn wirioneddol ddefnyddiol ac yn hawdd ei ddefnyddio ac yn ffordd wych o wirio pryd mae angen cyngor" ac "yn bersonol mae'r ap PKB yn adnodd defnyddiol iawn sy'n hawdd ei ddefnyddio, ac i allu cyfathrebu â gweithiwr proffesiynol yn help mawr. "

Gobeithiwn y bydd y llythyr a'r daflen wybodaeth yn helpu i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych ond peidiwch ag oedi cyn cysylltu â'n tîm Gwella a Thrawsnewid gan ddefnyddio'r manylion cyswllt ar y llythyr os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach.