Neidio i'r prif gynnwy

Amddiffyn plant ifanc rhag y ffliw yn flaenoriaeth allweddol y gaeaf hwn

12 Medi 2023

Mae arbenigwyr iechyd cyhoeddus o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) yn annog rhieni plant 2 neu 3 oed yn gryf i sicrhau bod eu plentyn yn cael eu brechlyn chwistrell trwyn ffliw blynyddol i helpu i leihau eu risg o gymhlethdodau pe baent yn dal y firws y gaeaf hwn.

Y llynedd, ffliw oedd y prif reswm dros dderbyn bron i 800 o blant 2-16 oed yng Nghymru i’r ysbyty.

Mae pryder o hyd y gallai plant na ddaeth ar draws firws y ffliw rhwng 2020-2022, pan nad oedd llawer o gymysgu cymdeithasol, fod yn arbennig o agored i niwed.

Mae’r ffliw yn cael ei ledaenu gan beswch a thisian ac er y gall y symptomau fod yn ysgafn, gall hefyd arwain at salwch mwy difrifol fel broncitis a niwmonia a allai fod angen mynd i’r ysbyty.

Mae plant rhwng 6 mis a 2 oed sydd â chyflwr iechyd hirdymor sy'n eu rhoi mewn mwy o berygl o'r ffliw hefyd yn gymwys ond byddant yn cael cynnig pigiad brechlyn ffliw yn lle'r chwistrell trwyn.

Bydd pob plentyn cymwys tair oed ac iau ar 31 Awst 2023 yn cael ei wahodd gan eu meddygfa.

Dywedodd Dr Ardiana Gjini, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus BIP Hywel Dda: “Gall unrhyw un ddal y ffliw, ond mae gan blant y gyfradd uchaf o haint, a gall fod yn ddifrifol iddyn nhw.

“Mae’r brechlyn ffliw chwistrell trwyn yn ddiogel ac yn effeithiol ac yn cael ei roi i filoedd o blant bob blwyddyn i helpu i’w hamddiffyn rhag ffliw. Gall y brechlyn hefyd leihau’r siawns y bydd plant a phobl ifanc yn lledaenu’r ffliw i eraill sy’n wynebu risg uchel o’r ffliw, fel babanod ifanc, neiniau a theidiau, a’r rhai â chyflyrau iechyd hirdymor.

“Y gaeaf hwn, sicrhewch fod gan eich plentyn a’r rhai o’u cwmpas yr amddiffyniad gorau rhag ffliw a’r cymhlethdodau y gall eu hachosi.”

Mae plant a phobl ifanc rhwng Derbyn a Blwyddyn 11 hefyd yn gymwys i gael y brechlyn chwistrell trwyn a byddant yn cael hwn drwy dîm nyrsio ysgol Hywel Dda.

Bydd ffurflenni caniatâd yn cael eu hanfon drwy ysgol eich plentyn. Dychwelwch y rhain cyn gynted â phosibl i roi gwybod i'r bwrdd iechyd os ydych yn dymuno i'ch plentyn gael y brechlyn ai peidio.

Gyda phwysau’r gaeaf yn cael eu rhagweld ar y GIG, mae’n bwysicach nag erioed bod y rhai sy’n gymwys i gael brechlyn ffliw neu Covid-19 am ddim yn cael eu brechu er mwyn helpu i’w hatal rhag mynd yn ddifrifol wael ac amddiffyn y GIG y gaeaf hwn. Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Brechu yw un o’r camau pwysicaf y gallwn ei wneud ar gyfer ein hiechyd ein hunain, a dyma’r camau ataliol pwysicaf y gall GIG Cymru eu cynnig i bobl yng Nghymru.

“Mae’r hen a’r ifanc iawn mewn perygl arbennig o ddioddef salwch anadlol, a bydd ein hymagwedd ar gyfer rhaglen frechu anadlol y gaeaf yn sicrhau bod y rhai sy’n gymwys yn cael eu hamddiffyn rhag COVID-19 a ffliw tymhorol.

“Rwy’n annog pobl i ddod ymlaen am y ddau frechlyn hyn pan gânt eu cynnig, yn enwedig yng ngoleuni’r amrywiad newydd o Omicron (BA.2.86), fel y gallwn barhau i amddiffyn ein hanwyliaid a chadw Cymru’n ddiogel y gaeaf hwn.”

Mae rhagor o wybodaeth am y brechlyn ffliw tymhorol ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru https://icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau