Neidio i'r prif gynnwy

Ymgynghoriad Meddygfa Tycroes bellach wedi cau

28 Mehefin 2022

Mae'r dyddiad cau i bobl roi eu barn am gynlluniau Meddygfa Tycroes bellach wedi mynd heibio.

Yn dilyn cais gan Feddygfa Stryd Marged, Rhydaman, i gau ei feddygfa gangen, Tycroes, gwahoddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) bobl i ddweud eu dweud erbyn dydd Gwener 24 Mehefin.

Tra bod y cyfnod ymgynghori wedi dod i ben, bydd unrhyw ymatebion neu sylwadau pellach a gyflwynwyd yn dal i gael eu cofnodi.

Hoffai Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a’r Cyngor Iechyd Cymuned ddiolch i bawb a gyfrannodd. Bydd yr adborth yn cael ei adolygu fel rhan o'r broses Gytundebol ffurfiol y mae'n rhaid i'r Bwrdd Iechyd ei dilyn ar ôl derbyn unrhyw gais i gau Meddygfa Gangen, a disgwylir i'r canlyniad gael ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf.

Mae Tycroes wedi bod ar gau ers Chwefror 2020 oherwydd y pandemig COVID-19 ac roedd yr adeilad yn gwasanaethu fel ‘safle coch’ ar gyfer clwstwr Meddygon Teulu Aman Gwendraeth. Cyn y pandemig, defnyddiwyd y gangen ar gyfer ystod o wasanaethau meddygol cyffredinol. Ers ei gau dros dro, mae cleifion Tycroes wedi defnyddio Practis Stryd Marged, sydd tua dwy filltir i ffwrdd. Mae llwybr bws rheolaidd rhwng y ddwy Feddygfa.

I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon i ddarllen rhai cwestiynau cyffredin yn seiliedig ar rywfaint o'r adborth a dderbyniwyd.